Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent wedi cyhuddo dyn 37 oed o Gwmbrân o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth Nicholas 'Brian' Parfitt.
Cafodd ei gyhuddo o fygythiadau i ladd ac aflonyddu hefyd ac mae wedi cael ei remandio i ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun 27 Ebrill.
Aeth swyddogion i gyfeiriad yn Heol Bythway, Trefddyn tua 4.55pm ddydd Iau 23 Ebrill ynghyd â pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru.
Cyhoeddwyd bod Nicholas 'Brian' Parfitt, 74 oed o Drefddyn, wedi marw yn y fan a’r lle.
Mae swyddogion arbenigol yn parhau i roi cymorth i’r teulu.
Meddai Ditectif Brif Arolygydd Shelly Comley, yr uwch swyddog ymchwilio:
"Rydyn ni’n deall bod gan bobl ddiddordeb mawr yn yr ymchwiliad yma.
"Gofynnwn i bobl ystyried sut gallai eu hiaith, yn arbennig sylwadau sy’n cael eu gwneud ar-lein, effeithio ar ein gallu i ddwyn unrhyw un sydd wedi cyflawni trosedd gerbron y llysoedd.
"Bydd swyddogion yn yr ardal o hyd wrth i’n hymholiadau barhau, felly os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth siaradwch â’n swyddogion neu cysylltwch â ni yn y ffordd arferol."
Gall unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â ni drwy ffonio 101, anfon neges uniongyrchol at y cyfryngau cymdeithasol neu drwy gyfrwng y ffurflen ar ein gwefan, gan grybwyll rhif cofnod 2600125343.
Gall aelodau’r cyhoedd gyflwyno gwybodaeth ar Borth Digwyddiadau Mawr yr Heddlu (MIPP) hefyd, yn yr adran sy’n benodol ar gyfer ein hymchwiliad i’r digwyddiad yma, ac mae’r ddolen ar gael yma: Public Portal
Gallwch gysylltu â Crimestoppers hefyd, yn ddienw, ar 0800 555 111.