Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn y llifogydd sydyn yn ardal Rasuwa ac ardal y ffin rhwng Nepal a Tsieina ar 26 Awst, mae llywodraeth Nepal wedi sefydlu rhif ffôn brys di-doll yn Nepaleg (1234), a llinell gymorth bwrpasol (1144) sydd ar gael yn Nepal. Os ydych chi wedi'ch effeithio ac angen cymorth gan lywodraeth y DU, ffoniwch:

Ddydd Gwener 24 Gorffennaf, roedd Cwnstabl Heddlu Guto Jenkins, o’r Tîm Gweithredu yn y Gymuned, ar batrôl ym Mharc Manwerthu Sbyty, Casnewydd, yn rhan o Ymgyrch Krypton pan welodd Matthew Ahern yn siarad gyda dyn mewn cadair olwyn, a’r ddau ohonynt yn edrych i mewn i ddwylo’r diffynnydd cyn cyfnewid rhywbeth.
Ceisiodd Ahern, 47, seiclo i ffwrdd pan sylweddolodd bod yr heddlu’n bresennol ond cafodd ei ddal gan Gwnstabl Heddlu Jenkins wrth iddo geisio gwau trwy’r cerbydau wedi parcio yn y parc manwerthu.
Cafodd Ahern ei stopio o dan adran 23 y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau a chafodd ei chwilio gan swyddogion a ddaeth o hyd i grac cocên wedi’i guddio mewn ŵy Kinder Surprise.
Canfuwyd bod y diffynnydd yn cario 24g o’r cyffur dosbarth A, gwerth rhwng £2,200 a £3,300 ar y stryd.
Mae dan glo yn awr am hyd at 42 mis.
Dywedodd Arolygydd Laura Paget, sy’n arwain y Tîm Gweithredu yn y Gymuned:
“Cafodd Ahern, a oedd ar drwydded am droseddau tebyg yn y gorffennol, ei stopio gan swyddogion a’i arestio ar amheuaeth o fod â chyffur o ddosbarth A yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi. Plediodd yn euog i’r cyhuddiad yn ddiweddarach.
“Mae’r canlyniad hwn yn dangos y gwaith mae ein Tîm Gweithredu yn y Gymuned yn ei wneud bob dydd i ganfod, tarfu ar, a dwyn troseddwyr o flaen eu gwell. Mae ein swyddogion yn gwbl ymroddedig i ddiogelu’r cyhoedd ac amddiffyn ein cymunedau rhag y niwed a achosir gan gyffuriau anghyfreithlon.
“Trwy dynnu’r sylweddau hyn oddi ar ein strydoedd, nid yn unig rydyn ni’n cael gwared ar y cyffuriau ond hefyd rydyn ni’n lleihau’r troseddu, ecsbloetiaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig, sy’n gallu cael effaith ddinistriol ar bobl leol.
“Byddwn yn parhau i dargedu pobl sy’n ymwneud â chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon a sicrhau bod Casnewydd yn parhau i fod yn lle digroeso i bobl sy’n ceisio gwneud elw o ymddygiad troseddol.”
Gofynnwn i unrhyw un â gwybodaeth am ddelio cyffuriau posibl neu unrhyw weithgarwch troseddol arall yn eu cymuned riportio’r mater wrth Heddlu Gwent trwy fynd ar eu gwefan, ffonio 101, neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Mae gwybodaeth gan y cyhoedd yn chwarae rhan hollbwysig yn helpu swyddogion i darfu ar rwydweithiau troseddol, tynnu cyffuriau oddi ar ein strydoedd a chadw cymunedau’n ddiogel.