Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion sy’n ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd yng Nghas-gwent yn apelio am dystion.
Galwyd swyddogion i’r A48 Pwllmeurig, Cas-gwent tua 5.55am ddydd Mawrth 7 Gorffennaf yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad traffig ffyrdd rhwng beic trydan a bws.
Mae’r seiclwr wedi cael ei gymryd i’r ysbyty i gael triniaeth ac mae yn parhau i fod mewn cyflwr sy’n bygwth bywyd.
Yn rhan o’r ymchwiliad, mae swyddogion yn awyddus iawn i siarad ag unrhyw un a welodd y seiclwr cyn y gwrthdrawiad.
Mae swyddogion eisiau clywed gan unrhyw un a welodd y seiclwr yn teithio yn yr ardal cyn y gwrthdrawiad, gan gynnwys modurwyr, cerddwyr, seiclwyr, neu unrhyw un a allai fod wedi recordio delweddau perthnasol ar gamera cerbyd, teledu cylch cyfyng, ffôn symudol neu ddyfais recordio arall.
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymchwiliad gysylltu â Heddlu Gwent gan grybwyll rhif cofnod 2600215220.
Gellir rhannu gwybodaeth drwy ffonio 101, ar-lein ar www.gwent.police.uk, neu drwy anfon neges uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol.