Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arestiwyd Thomas Coffey o Stow Hill, Casnewydd, a Victoria Seymour o Howe Circle, Casnewydd gan swyddogion o’r tîm Troseddau Cyfundrefnol Difrifol ddydd Iau 30 Gorffennaf.
Cyhuddwyd Coffey, 52, o nifer o droseddau gan gynnwys ymwneud â chyflenwi cyffur rheoledig o ddosbarth A - crac cocên, bod â chyffur o ddosbarth A - crac cocên a chocên - yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, bod ag arf troseddol yn ei feddiant mewn man preifat, bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant a bod â chyffur o ddosbarth B - canabis - yn ei feddiant.
Cyhuddwyd Seymour, 45, o ymwneud â chyflenwi cyffur o ddosbarth A - crac cocên, bod â chyffur o ddosbarth A - crac cocên a chocên - yn ei meddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, a bod ag eiddo troseddol yn ei meddiant.
Remandiwyd y ddau ohonynt i’r ddalfa yn dilyn eu hymddangosiad yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Gwener 31 Gorffennaf.
Arestiwyd bachgen 17 oed hefyd ar amheuaeth o ymwneud â chyflenwi cyffur rheoledig o ddosbarth A - crac cocên. Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu wrth i ni barhau i ymchwilio.