Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Roedd pecynnau cocên a heroin, arian a ffonau symudol ymysg yr eitemau a atafaelwyd o gyfeiriad Shujer Hussain, yn dilyn adroddiadau ei fod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau.
Gweithredodd swyddogion Troseddau Cyfundrefnol Difrifol warant yng nghartref y dyn 45 oed ym mis Mehefin eleni.
Dangosodd negeseuon a ganfuwyd ar ffôn Hussain, ynghyd â’r cyffuriau a ganfuwyd yn ei gyfeiriad, ei fod yn ymwneud â chyflenwi crac cocên a heroin ar y strydoedd.
Carcharwyd y dyn o Gasnewydd am dair blynedd a hanner yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener 17 Gorffennaf.
Meddai Cwnstabl Heddlu Daniel Cleland, y swyddog yn yr achos: “Mae cyflenwi cyffuriau anghyfreithlon yn cael effaith ddinistriol ar ein cymunedau.
“Rydyn ni’n gobeithio bod y ddedfryd hon yn dangos bod ymdrin â phobl sy’n delio cyffuriau yn flaenoriaeth o hyd i ni a bod gwybodaeth gan y cyhoedd yn ein helpu ni i gael darlun clir o ble mae troseddau’n digwydd er mwyn i ni allu cynllunio a chynnal ymgyrchoedd rhagweithiol i arestio’r rhai sy’n gyfrifol.”