Stamp amser presennol: 15/06/26 02:39:52
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Gwent Police crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Carchar i dwyllwyr Facebook Marketplace

Cynnwys y prif erthygl

Newyddion Wedi'u dal ac yn y llys
Cyhoeddwyd: 10:12 22/05/2026

Mae dau ddyn a ddefnyddiodd ap bancio ffug i dwyllo 27 o werthwyr diniwed i roi eitemau drud iddyn nhw wedi cael eu carcharu.

Cyfaddefodd Bernie McDonagh, 20, a Thomas McDonagh, 23, i sicrhau nwyddau a gafwyd trwy dwyll gwerth bron i £70,000 rhwng mis Ionawr 2023 a mis Medi 2023.

Roedd y par yn gweithredu ar draws ardal chwe gwasanaeth heddlu - Gwent, De Cymru, Dyfnaint a Chernyw, Dorset, Avon a Gwlad yr Haf a Dyfed-Powys - gan gysylltu â phobl a oedd yn gwerthu eitemau ar Facebook Marketplace, yn defnyddio’r enw Rosemary Baker i ddechrau, cyn defnyddio ffugenwau eraill.

Pan oedden nhw’n casglu’r eitemau, roeddent yn defnyddio ap bancio ffug a oedd yn cynhyrchu neges ffug bod trosglwyddiad wedi’i gwblhau. Wedyn roedden nhw’n gadael gyda’r nwyddau heb i’r taliad gael ei wneud.

Dangosodd delweddau teledu cylch cyfyng y ddau ohonynt mewn gwahanol siopau CeX – siop lle mae pobl yn gallu prynu a gwerthu nwyddau ail law – yn gwerthu’r eitemau, gan gynnwys ffonau clyfar, gliniaduron, ac oriorau drud, yr oedden nhw wedi eu cael trwy dwyll.

Plediodd y ddau ohonynt yn euog i gynllwynio i gyflawni twyll trwy ymhoniad anwir yn gynharach eleni a chawsant eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau 21 Mai. Derbyniodd Bernie McDonagh ddedfryd o 18 mis o garchar a derbyniodd Thomas McDonagh ddedfryd o 19 mis o garchar.

Dywedodd y swyddogion yn yr achos, Ditectif Gwnstabl Benjamin Phillips a Ditectif Gwnstabl Matthew Emberton: “Teithiodd y McDonaghs i fyny ac i lawr de orllewin y wlad yn cymryd mantais o aelodau diniwed y cyhoedd a oedd yn ceisio gwerthu eu nwyddau ar-lein.

“Roedden nhw’n ddigywilydd, yn annog y gwerthwyr diniwed i dynnu lluniau o’r negeseuon trosglwyddiad banc ffug ynghyd a lluniau o’r diffynyddion eu hunain a’u car, mewn ymgais i guddio eu twyll.

“Rydyn ni’n argymell unrhyw un sy’n gwerthu eitemau ar-lein i ofyn am daliad arian parod neu PayPal. Os ydych chi’n hapus i dderbyn trosglwyddiad banc, arhoswch i’r taliad glirio cyn trosglwyddo’r nwyddau. Gwnewch eich ymchwil a gwiriwch adolygiadau ar wefannau fel eBay, Vinted a Depop.”

Arestiwyd trydydd dyn, Patrick O’Brien, yn rhan o’r ymchwiliad yma, ond bu farw yn ystod yr ymchwiliad felly daeth yr achos yn ei erbyn i ben.

Derbyniodd bachgen 17 oed Orchymyn Atgyfeirio am bedwar mis yn Llys Ieuenctid Caerdydd y llynedd am ei ran yn y twyll hefyd.

Mae rhagor o gyngor ynghylch prynu a gwerthu ar-lein yma: https://www.gwent.police.uk/news/gwent/news/news/2021/may/selling--buying-online--be-aware/

Os ydych chi’n credu eich bod chi wedi dioddef twyll ar-lein, dywedwch wrth Report Fraud:  https://www.reportfraud.police.uk/

 

imagetools1.png

imagetools2.png

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Gwent

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Ymunwch â ni
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.