Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd dyn o Gaerffili yn cael ei wahardd rhag gyrru am bedair blynedd ar ôl cyfaddef iddo achosi marwolaeth menyw ac anafu dwy arall yn ddifrifol.
Ymddangosodd Ronald Dowling, o Salop Street, Caerffili, yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Mawrth 13 Hydref ar ôl pledio’n euog yn flaenorol i achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal a dau gyhuddiad o achosi anaf difrifol drwy yrru’n ddiofal.
Roedd Dowling, 66, yn gyrru Maserati Ghibli llwyd ar yr A4042, ger cylchfan Rechem rhwng Cwmbrân a Phont-y-pŵl, pan gollodd reolaeth ar ei gerbyd mewn tywydd gwlyb a gwrthdaro ag Audi du tua 1.30pm ar 26 Hydref 2023.
Aethpwyd â gyrrwr yr Audi, Sharon Berry, 54, o ardal Pen-y-bont ar Ogwr, i’r ysbyty ag anafiadau a oedd yn peryglu ei bywyd, lle y bu farw yn ddiweddarach.
Cafodd dwy fenyw o ardal Caerffili, y ddwy ohonynt yn 66 oed bellach, anafiadau difrifol yn y gwrthdrawiad ac aethpwyd â nhw i’r ysbyty.
Dywedodd Cwnstabl Heddlu Clease, o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Heddlu Gwent:
“Mae hwn yn achos trasig sydd wedi arwain at farwolaeth ddiangen ac anafiadau difrifol i ddau berson arall.
“Hoffwn ddiolch i bawb a gynorthwyodd ein hymchwiliad ac estynnaf fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Sharon Berry.
“Mae ein meddyliau gyda theulu Sharon wrth iddyn nhw barhau i ailadeiladu eu bywydau.
“Nid oedd gyrru Ronald Dowling yn cyrraedd y safon ofynnol, ofalus, roedd yn gyrru’n wael ac yn ddiofal ar ffordd wlyb, ac arweiniodd hynny at ganlyniadau dinistriol.
“Mae’r achos hwn yn dangos mor eithriadol o bwysig yw hi bod pobl yn gyrru’n ofalus ym mhob tywydd. Mae gyrru diofal yn difetha bywydau.
“Mae hyn yn atgoffa pawb sy’n mynd y tu ôl i’r llyw bod cyfrifoldeb arnoch chi nid yn unig i sicrhau eich bod chi eich hun yn ddiogel ond i sicrhau bod pawb o’ch cwmpas chi’n ddiogel hefyd.”
Cafodd Dowling ddedfryd o 27 mis wedi’i gohirio am ddwy flynedd a chafodd ei orchymyn i wneud 250 o oriau o waith di-dâl.
Cafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am bedair blynedd.