Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Wrth gynnal patrolau rhagweithiol yn ardal Maesglas yng Nghasnewydd tua 1pm ddydd Gwener 2 Hydref, gwelodd swyddogion o’n Tîm Gweithredu yn y Gymuned foped amheus.
Chwiliodd swyddogion yr ardal, a gwelsant y moped dan sylw yng ngardd cyfeiriad ar Bideford Road a gwelsant ddyn wrth y drws ffrynt.
Daliodd swyddogion y dyn wrth iddo geisio ffoi drwy ardd gefn y cyfeiriad.
Chwiliodd swyddogion y cyfeiriad a gwnaethant atafaelu cocên, canabis, arian parod, ffonau symudol a geriach cyffuriau.
Cafodd y dyn 24 oed ei arestio ar amheuaeth o fod â chocên a chanabis yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, a rhwystro/gwrthsefyll cwnstabl wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd.
Cafodd Liam Cogdell, o Cormorant Way, Dyffryn, Casnewydd, ei gyhuddo o’r troseddau hyn a’i remandio i’r ddalfa i ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun 5 Hydref.
Cafodd dwy fenyw, 18 a 36 oed, hefyd o Gasnewydd, eu harestio hefyd ar amheuaeth o fod â chocên a chanabis yn eu meddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, a chaffael/defnyddio/meddu ar eiddo troseddol.
Cafodd y ddwy ohonynt eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol yr heddlu wrth i’n hymholiadau barhau.