Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Hysbysiad cynnal a chadw gwefan: Oherwydd gwaith cynnal a chadw sydd wedi’i drefnu ar y platfform, ni ellir cyflwyno ffurflenni rhwng 11.55pm ar ddydd Mawrth, 8 Medi a 7am ar ddydd Mercher, 9 Medi. Bydd gweddill y wefan yn parhau i weithredu fel arfer. Dychwelwch ar ôl 7am ar 9 Medi os ydych am gyflwyno adroddiad ar-lein.
Ers lansio’r ymgyrch ym mis Gorffennaf, mae swyddogion a phartneriaid wedi targedu troseddwyr mynych, gweithredu gwarantau cyffuriau, tarfu ar weithgarwch troseddol, adfeddu cerbydau wedi’u dwyn a chynnal mwy o batrolau amlwg mewn ardaloedd sy’n cael eu heffeithio gan drosedd ac anhrefn.
Mae Ymgyrch Krypton y dod â Heddlu Gwent, Cyngor Dinas Casnewydd, Hedyn, a phartneriaid at ei gilydd i wella diogelwch a hyder yng Nghasnewydd ac mewn cymunedau ledled y ddinas.
Ochr yn ochr â’r 200 arést, mae swyddogion wedi gweithredu gwarantau, adfeddu ceir a beiciau modur wedi’u dwyn, atafaelu cerbydau cysylltiedig â throseddu, ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol trwy bwerau gwasgaru a gorfodi Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, a chefnogi gweithgarwch i roi sylw i bobl sy’n defnyddio cerbydau oddi ar y ffordd yn wrthgymdeithasol.
Rydym hefyd wedi gweithio ochr yr ochr â thîm Safonau Masnachu Cyngor Dinas Casnewydd i gymryd camau gorfodi yn erbyn busnesau dan amheuaeth o werthu fêps anghyfreithlon, ac mae patrolau a gweithgarwch ymgysylltu ar y cyd wedi helpu i roi sylw i bryderon gan breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.
Meddai Uwch-arolygydd Esyr Jones, Plismona Cymdogaeth Heddlu Gwent:
"Mae’r canlyniadau a gyflawnwyd trwy Ymgyrch Krypton yn dangos yr effaith mae plismona rhagweithiol a gwaith partner yn gallu ei chael wrth ymdrin â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Mae mwy na 200 o bobl wedi cael eu harestio am droseddau yn cynnwys cyflenwi cyffuriau, byrgleriaeth, ymosodiad, troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus, troseddu cysylltiedig â’r ffyrdd a thorri mechnïaeth.
"Er bod Ymgyrch Krypton wedi dechrau fel menter bwrpasol, mae ein dull rhagweithiol a dynamig o weithio wedi dod yn arfer cyffredin yn awr.
“Bydd preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr yn parhau i weld swyddogion ar batrolau amlwg, yn cymryd camau gorfodi ac yn gweithio gyda phartneriaid i roi sylw i bryderon a gwella diogelwch.
"Yn fwyaf diweddar, rydym wedi gweld cynnydd mewn troseddau byrgleriaeth, ond mae swyddogion wedi gweithio’n ddiflino i ganfod pobl dan amheuaeth, eu harestio, a sicrhau cyhuddiadau yn erbyn llawer o’r rhai rydym yn credu sy’n gyfrifol. Mae nifer o’r rhain yn aros i gael eu dedfrydu yn awr.
"Rydym wedi ymroi i wneud Casnewydd yn lle mwy diogel i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef. Trwy waith partner parhaus, gwaith gorfodi pwrpasol ac ymgysylltu a’r gymuned, byddwn yn parhau i ymlid troseddwyr ac ymdrin â’r materion sydd fwyaf pwysig i bobl leol.”
Mae eich adroddiadau yn parhau i fod yn allweddol yn ein helpu ni i ddeall ble mae’r problemau a ble y mae’r angen mwyaf am ein hadnoddau, felly gofynnaf i unrhyw un â phryderon barhau i riportio wrthym ni.
Os gwelwch chi unrhyw beth amheus pan fyddwch chi allan ar grwydr, ffoniwch ni ar 101, anfonwch neges atom ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol Facebook neu X, neu rhowch wybod amdano ar-lein.
Gallwch gysylltu â Crimestoppers hefyd, yn ddienw, ar 0800 555 neu ar-lein.
Os gwelwch chi drosedd yn cael ei chyflawni, neu os yw’n argyfwng ac mae angen cymorth yr heddlu arnoch ar unwaith, ffoniwch 999 bob amser.