Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gweithredodd swyddogion cymdogaeth a oedd yn ymchwilio i werthiant cyllell ymladd warant ben bore mewn cyfeiriad yng Nghasnewydd ddydd Iau 10 Medi.
Atafaelodd swyddogion yr hyn roedden nhw’n amau i fod yn gocên, heroin, canabis, arian ffug a ffôn symudol o’r cyfeiriad ar Heol Victoria.
Arestiwyd dyn 25 oed o Gasnewydd ar amheuaeth o:
Farchnata cyllell ymladd trwy werthu neu logi
Bod â chyffur rheoledig o ddosbarth A - cocên - yn ei feddiant
Bod â chyffur rheoledig o ddosbarth A - heroin - yn ei feddiant
Ymwneud â chyflenwi cyffur o ddosbarth B
Bod ag arian ffug yn ei feddiant: Bod ag arian papur neu ddarnau arian ffug yn ei feddiant gyda’r bwriad o’u defnyddio neu eu dosbarthu.
Meddai Arolygydd Roland Giles, o dîm plismona cymdogaeth Casnewydd:
"Rydyn ni’n gobeithio bod gwarant y bore yma ym Maendy yn dangos bod gwybodaeth gan ein cymunedau yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i’n hymchwiliadau.
"Mae ein cymunedau’n chwarae rhan hollbwysig mewn ymgyrchoedd fel hyn, trwy rannu eu pryderon gyda ni.
"Yn rhan o Ymgyrch Krypton, bydd ein timau’n parhau i weithio’n ddiflino i ymchwilio i ymddygiad troseddol sy’n gysylltiedig â gwerthu a chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon yn ardal Casnewydd a thu hwnt.
“Daliwch ati i roi gwybod i ni am eich pryderon.”
Os oes gennych chi unrhyw bryderon am gyffuriau anghyfreithiol yn eich ardal, gallwch riportio ar ein gwefan, ein ffonio ni ar 101 neu anfon neges uniongyrchol at ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol Facebook neu X, er mwyn i ni allu gweithredu.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers, yn ddienw, ar 0800 555 111, gyda gwybodaeth neu ewch i’w gwefan.