Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym bellach wedi gwneud 241 o arestiadau fel rhan o Ymgyrch Krypton, menter bartneriaeth sy'n cael ei harwain gan gudd-wybodaeth sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled Casnewydd.
Ers ei lansio ddechrau mis Gorffennaf, rydym wedi gweithio gyda'n partneriaid, gan gynnwys Cyngor Dinas Casnewydd a Hedyn, i wella diogelwch yng nghanol y ddinas.
Rydym wedi targedu pobl sy’n troseddu dro ar ôl tro, cynnal gwarantau cyffuriau, tarfu ar weithgarwch troseddol, adfer cerbydau wedi'u dwyn a chynyddu patrolau gwelededd uchel mewn ardaloedd y mae trosedd ac anhrefn yn effeithio arnynt.
Mae'r dull rhagweithiol hwn rydyn ni wedi'i gymryd yn rhan o'n gweithgarwch o ddydd i ddydd yng nghanol y ddinas a bydd ein timau cymdogaeth yn parhau i fod yn weladwy, yn hygyrch ac yn canolbwyntio ar y materion sy'n bwysicaf i bobl leol.
Rydym wedi arestio 11 o bobl sy’n troseddu dro ar ôl tro ar o leiaf ddau achlysur gan fod ein swyddogion wedi cymryd camau yn erbyn y rhai sy'n achosi'r niwed mwyaf yn ein cymunedau.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Esyr Jones, Plismona Cymdogaeth Gwent:
"Mae ein gwaith partneriaeth parhaus ar gyfer Ymgyrch Krypton wedi arwain at 241 o arestiadau hyd yma am amrywiaeth o droseddau, yn amrywio o fyrgleriaeth a dwyn o siopau i gyflenwi cyffuriau ac ymddygiad anhrefnus.
"Ers mis Gorffennaf, rydym wedi canfod 18 o fyrgleriaethau masnachol yn y ddinas, ac wedi adennill £9,000 o eiddo troseddol, cynnal gwarantau, mwy na dwsin o ymgyrchoedd gyda phartneriaid, a mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Mae canlyniadau llys diweddar yn cynnwys carcharu Mohammed Salam a Nicole Clarke am droseddau byrgleriaeth a dwyn a gyflawnwyd yng nghanol y ddinas, a Sam Mulligan am ladrad.
"Mae'r canlyniadau hyn yn dangos y canlyniadau cadarnhaol y mae Ymgyrch Krypton yn eu cyflawni. Fodd bynnag, nid yw ein gwaith ar ben.
"Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i weithio gyda'n partneriaid a phan fyddwn yn nodi troseddau, gan gynnwys torri Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus am yfed ar y stryd a chardota yng nghanol y ddinas, byddwn yn cymryd camau priodol yn erbyn y rhai sy'n achosi niwed i'n cymunedau."
Rydym yn annog trigolion Casnewydd a thu hwnt i gofrestru gyda Materion Cymdogaeth, ein system negeseuon ac ymgysylltu cymunedol rhad ac am ddim.
Bydd y sgyrsiau hyn yn helpu i lunio camau gweithredu yn y dyfodol ac yn sicrhau bod blaenoriaethau lleol yn parhau i lywio camau gweithredu gan yr heddlu a phartneriaethau.
Os gwelwch unrhyw beth amheus tra byddwch yng Nghasnewydd, ffoniwch ni ar 101, anfonwch neges atom ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol Facebook neu X, neu riportiwch nhw ar-lein.
Gallwch hefyd gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu ar-lein.
Os yw trosedd yn digwydd ar y pryd, neu os yw'n argyfwng ac mae angen cymorth yr heddlu arnoch ar unwaith, ffoniwch 999 bob amser.