Mae gennym ystod o dactegau gweithredol a ddefnyddiwn i dargedu y defnydd gwrthgymdeithasol a pheryglus o gerbydau.
Mae Ymgyrch Harley yn mynd i'r afael â'r defnydd anghyfreithlon o gerbydau oddi ar y ffordd yng nghanol trefi ac ardaloedd gwledig, tra bod Ymgyrch Wheeler yn gweld ein swyddogion plismona ffyrdd yn mynd i'r afael â chyfarfodydd ceir anghyfreithlon a rasio ar y stryd.
Mae swyddogion yn parhau i ymgysylltu â chymunedau i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r cyfreithlondeb yn ymwneud â pherchnogaeth cerbydau a thir, a chyfreithiau'r ffordd.