Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nid yw llawer o bobl yn diogelu eu sied neu garej yn yr un modd ag y maent yn diogelu eu cartref – yn aml byddant yn defnyddio clo neu glo clap sy’n hawdd ei dorri er mwyn diogelu eiddo fel car, beic neu beiriant torri gwair.
Yn gyntaf, gwiriwch fod eich yswiriant yn yswirio’r eitemau sydd yn eich sied neu adeiladau allanol rhag lladrad.
Edrychwch ar eich sied a meddyliwch sut y byddech chi’n torri i mewn iddi. Mae’n werth cael clo clap da ar y drws heb unrhyw sgriwiau yn y golwg. Talwch sylw i golfachau, gan fod y rhain weithiau’n hawdd eu tynnu’n rhydd. Os oes gennych ffenestri yna gall y rhain fod yn fregus oni bai eu bod wedi’u diogelu â rhwyll fetel. Cofiwch gadw eich sied wedi’i chloi bob amser.
Ystyriwch osod larwm sied sy’n gweithio ar fatri. Maent yn edrych yn syml ond yn ymateb i symudiad neu gysylltiad â drws gyda seiren hynod uchel.
Peidiwch â rhoi’r cyfle neu’r offer iddynt gyflawni trosedd. Clowch bopeth yn ddiogel. Gellir cloi offer tu fewn i locer neu flwch neu gyda chadwyn. Clowch eich beic i’r llawr neu stondin gloadwy mewn sied neu garej sydd wedi’i chloi. Ewch i Sold Secure i chwilio am angorau llawr a chloeon eraill sydd wedi’u bwriadu i’w gosod yn sownd i’r llawr neu’r waliau.
Mae hi bob amser yn werth rhoi hen gynfas neu flanced dros beiriant torri gwair fel nad yw yn y golwg.
Buddsoddwch mewn stop drws ar gyfer garej.
Er ei fod yn swnio’n amlwg, peidiwch byth â gadael drws eich garej neu sied heb ei gloi os nad ydych o gwmpas.
Cynghorir marcio eich eiddo a gellir paentio eich enw neu god post ar rai offer. Mae marcio fforensig hefyd yn opsiwn.
Gall saer cloeon sy’n perthyn i’r Master Locksmiths Association eich cynghori ar y sied fwyaf diogel a diogelwch drysau garej. Gall hefyd eich helpu i’w gosod. Mae’r rhan fwyaf hefyd yn darparu arolygon diogelwch cartref llawn.