Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd mwy na 9,000 o sgwteri, beiciau modur a mopedau yn cael eu dwyn yn Llundain bob blwyddyn. Dim ond eiliadau sydd ei angen ar ladron i ddwyn moped, sgwter neu feic modur - yn arbennig os ydynt yn cael eu gadael gyda mesurau diogelwch gwael - ond bydd ein hawgrymiadau yn helpu i leihau’r siawns o ladrad.
Lleihewch eich siawns o ddioddef lladrad drwy osod eich diogelwch mewn haenau.
Defnyddiwch glo disg ar gyfer eich disg brêc blaen, neu glo gafael i ddiogelu’r rheolwyr brêc a sbardun. Gallech hefyd ddefnyddio clo D ar yr olwyn flaen er mwyn atal y beic rhag cael ei wthio i ffwrdd.
Bydd lladron yn aml yn dwyn beic drwy dorri’r clo llyw a’i wthio i ffwrdd. Defnyddiwch glo cadwyn drwy’r olwyn gefn (gellir tynnu’r olwyn flaen yn rhydd). Diogelwch eich beic gyda chlo wedi’i glymu i wrthrych sefydlog megis angor llawr neu ddodrefn stryd. Bydd hyn yn rhwystro lladron rhag torri clo sy’n gorwedd ar y llawr gan ddefnyddio peiriant llifanu. Os nad yw hyn yn bosibl, rhowch y gadwyn drwy ffrâm ac olwyn gefn eich beic.
Bydd lladron yn aml yn ‘siopa’ am fodelau penodol o feic. Mae defnyddio gorchudd yn ei wneud yn llai atyniadol iddynt ar unwaith. Mae clawr hefyd yn gosod rhwystr arall o ran amser yn ffordd y lleidr.
Yn anffodus ni all camau diogelwch sicrhau na fydd eich beic yn cael ei ddwyn ond, drwy ddefnyddio, nifer o fesurau diogelwch, gallwch ei gwneud hi’n anoddach ac yn llai atyniadol i ladron.
Ar gyfer cynhyrchion diogelwch ar gyfer eich sgwter, beic modur neu foped chwiliwch y dudalen ‘Accredited products’ ar Secured by Design (gwefan a gymeradwywyd gan yr heddlu).
Bydd lladron yn aml yn manteisio ar gyfle ac felly byddant yn chwilio am feiciau y gellir eu dwyn yn hawdd ac yn gyflym yn gyntaf.
Dysgwch ragor am wybodaeth am ddiogelwch sied a garej.
Os caiff eich beic ei ddwyn, peidiwch byth â rhoi eich hun mewn perygl. Ffoniwch yr heddlu ar unwaith ar 999 os ydych chi’n ei weld yn cael ei ddwyn neu riportiwch drosedd ar-lein os ydych chi’n darganfod ei fod wedi cael ei ddwyn.
Mae sgwteri sydd wedi’u dwyn yn cael eu defnyddio fwyfwy i gyflawni troseddau eraill, megis cipio ffonau. Drwy ddiogelu eich sgwter gallech helpu i leihau’r troseddau eraill hyn.
Dysgwch ragor am sut i ddiogelu eich ffôn rhag lladron ar feiciau neu sgwteri.