Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Twyll manylion mandad yw pan fydd rhywun yn eich twyllo i newid manylion debyd uniongyrchol, archeb sefydlog neu drosglwyddiad banc drwy esgus bod yn sefydliad rydych chi'n gwneud taliadau rheolaidd iddo. Mae enghreifftiau’n cynnwys cyflenwr busnes neu danysgrifiad.
Mae’n dwyll syml ond effeithiol, ac mae’n cael ei ddefnyddio dipyn. Gall sgamwyr ddwyn swm enfawr o arian yn hawdd.
Mae rhywun yn cysylltu â’ch busnes yn esgus bod yn un o’ch cyflenwyr. Maen nhw'n dweud bod eu manylion banc wedi newid felly mae angen i chi newid eu cyfrif i adlewyrchu hynny. Rydych chi'n gwneud y newid.
Ond y mis canlynol, mae’r cyflenwr go iawn yn gofyn beth sydd wedi digwydd i’ch taliad misol. Rydych chi’n sylweddoli eich bod wedi cael eich twyllo.
Mewn sefyllfa arall, mae rhywun yn cysylltu â'ch busnes gan esgus ei fod yn dod o sefydliad y mae gennych archeb sefydlog ag ef. Maen nhw'n gofyn i chi newid archeb i adlewyrchu newid yn eu system fancio.
Rydych chi’n newid manylion mandad yr archeb sefydlog, ond y mis canlynol, nid yw’r sefydliad go iawn yn dosbarthu eich cynnyrch, neu bod yr aelodaeth yn cael ei ganslo, gan na chawsant eu talu.
Fel arall, mae eich busnes yn cael llythyr sy’n ymddangos fel pe bai’n dod wrth gwmni sy'n anfon cylchgrawn misol atoch. Mae'n darparu manylion cyfrif banc newydd ac yn gofyn i chi newid y manylion talu i'r cyfrif hwn.
Y mis canlynol, nid yw’r cylchgrawn yn cyrraedd. Mae’r cyhoeddwr yn dweud, oherwydd eich bod wedi canslo'r taliad, eu bod nhw wedi canslo'r tanysgrifiad. Yn olaf, mae cyfrif banc ar-lein eich busnes wedi’i hacio a manylion y taliad misol wedi’i newid, felly mae’r arian yn cael ei drosglwyddo i gyfrif y twyllwr.
Peidiwch â dibynnu’n unig ar e-byst neu alwadau ffôn symudol. Dylwch wirio a chadarnhau unrhyw gais i newid manylion banc cyflenwyr.
Dylech wastad defnyddio cysylltiadau sydd gennych ar ffeil yn barod i wirio newidiadau i drefniadau ariannol gyda’r sefydliad yn uniongyrchol.
Dylech gadw cofnodion archebion sefydlog a debyd uniongyrchol.
Cadwch filiau a dogfennau busnes eraill mewn lle diogel i atal gwybodaeth rhag syrthio i'r dwylo anghywir.
Gwiriwch eich datganiadau banc yn ofalus am unrhyw beth amheus.
Dywedwch wrth eich banc ar unwaith os gwelwch chi unrhyw weithgaredd amheus ar eich cyfrif.
Am fwy o wybodaeth a help neu i riportio hyn a nifer o fathau gwahanol o dwyll, ewch i Action Fraud, canolfan riportio genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu.
Gall sieciau go iawn o’ch cwmni, cwsmeriaid neu gyflenwyr eich hun gael eu dwyn, eu newid a’u cyflwyno neu eu ffugio a’u cyflwyno.
Dylech ond derbyn sieciau gan bobl rydych chi'n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw.
Peidiwch â rhyddhau nwyddau nes eich bod yn siŵr bod yr arian gennych.
Gallwch gael gwybodaeth am amseroedd clirio sieciau ar gyfartaledd yn Cheque and Credit Clearing Company.
Peidiwch â derbyn sieciau am swm sy’n uwch na’r hyn rydych yn ei ddisgwyl.
Byddwch yn ofalus iawn gyda chwsmeriaid sy’n:
Mae’r dull olaf hwn yn cael ei ddefnyddio’n aml mewn sgamiau swyddi gwag a gwasanaethau sy’n cael eu gwerthu drwy hysbysebion dosbarthiadol.
Defnyddiwch feiro ag inc parhaol neu feiro du neu las ballpoint ar sieciau. Os ydych chi'n nodi manylion gydag argraffydd, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio peiriannau a lliwiau sydd wedi’u cymeradwyo. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anoddach newid neu ddileu'r ysgrifen. Dewch o hyd i restr o beiriannau cymeradwy yn y Cheque and Credit Clearing Company.
Croeswch drwodd gyda beiro unrhyw fannau gwag ar sieciau; ar ôl enw'r talai ac ar ôl swm y taliad wedi'i ysgrifennu mewn geiriau, er enghraifft. Os ydych chi'n defnyddio cyfrifiadur, gwnewch yn siŵr bod y feddalwedd yn llenwi unrhyw fannau gwag gyda symbolau seren (*).
Peidiwch â gadael bylchau mawr rhwng geiriau. Gwnewch yn siŵr fod y peiriant yn defnyddio ‘sero’ yn lle ‘dim’, y gellir ei newid yn dwyllodrus i ‘naw’ yn hawdd yn Saesneg.
Os ydych yn aros am lyfr siec newydd ac nad yw'n cyrraedd, cysylltwch â'ch banc. Dylech ystyried casglu sieciau busnes o'r banc oherwydd gellir eu dwyn o'r system bost.
Gwiriwch eich datganiadau banc yn rheolaidd i gadw golwg ar daliadau siec.
Ceisiwch osgoi defnyddio un llofnodwr o fewn eich busnes yn unig, fel y gall eraill godi anghysondebau.
Am fwy o wybodaeth a help neu i riportio hyn a nifer o fathau gwahanol o dwyll, ewch i Action Fraud, canolfan riportio genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu.