Twyll etholiadol yw pan fydd rhywun yn ceisio twyllo mewn etholiad drwy dorri cyfreithiau etholiadol. Yr enw swyddogol ar hyn yw camymddygiad etholiadol.
Mae twyll etholiadol yn cynnwys:
Ymgyrchu
- peidio â datgan treuliau etholiadol yn gywir
- peidio â chynnwys enwau a chyfeiriadau'r argraffydd ac ar ran pwy y cawson nhw eu hargraffu ar daflenni etholiadol
Pleidleisio
- cymryd arnoch bod yn rhywun arall er mwyn defnyddio'u pleidlais nhw
- llwgrwobrwyo rhywun i bleidleisio yn y modd yr hoffech chi eu gweld nhw'n pleidleisio
- camddefnyddio safle pwerus i berswadio rhywun i bleidleisio yr un ffordd â chi, er enghraifft arweinydd crefyddol yn dweud wrth ei gynulleidfa sut y dylen nhw bleidleisio
Dod yn ymgeisydd
- dweud celwydd ar ffurflen enwebu ymgeisydd
- ffugio llofnodion neu greu llofnodion ar ffurflen enwebu ymgeisydd
- cofrestru fel ymgeisydd pan nad ydych yn gymwys, er enghraifft oherwydd eich galwedigaeth neu'ch cofnod troseddol
Cofrestru
- cofrestru i bleidleisio pan nad oes gennych hawl i bleidleisio
- dweud celwydd am y dyddiad cau i bobl gofrestru i bleidleisio, er mwyn atal pobl rhag trafferthu i gofrestru
Riportio twyll etholiadol