Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi'n poeni y gallai rhywun ddod i wybod eich bod wedi ymweld â'n gwefan ni, dysgwch isod sut i gael gwared ar olion eich ymweliad. Yr enw ar yr olion hyn yw ffeiliau storfa ac maen nhw’n cynnwys ffeiliau, sgriptiau, delweddau, a deunydd amlgyfrwng arall sy'n cael eu storio ar eich dyfais ar ôl ichi agor ap neu ymweld â gwefan.
Gallwch glirio hanes eich porwr (sef rhaglen sy’n cael ei defnyddio i gyrchu a gweld gwefannau, er enghraifft, Google Chrome, Safari ac Internet Explorer) drwy ddilyn y camau isod. Rydyn ni wedi cynnwys cyngor hefyd ar beth i'w wneud os cewch chi negeseuon e-bost bygythiol neu sarhaus.
Efallai na fydd yr wybodaeth isod yn cuddio’ch traciau'n llwyr. Y ffordd fwyaf diogel i guddio’ch gweithgaredd ar-lein yn llwyr rhag rhywun sydd â mynediad i'ch dyfeisiau fyddai chwilio ac ymweld â gwefannau ar ddyfais rhywun arall, e.e. mewn llyfrgell, yn y gwaith neu drwy ddefnyddio dyfais ffrind neu berthynas.
Mae'n bosibl i rywun weld y gwefannau rydych chi wedi ymweld â nhw, a hynny drwy chwilio drwy hanes eich porwr gwe ar gyfrifiadur neu ddyfais symudol. Gallwch glirio'r hanes, a gwagio'r wybodaeth a gadwyd o’r storfa ffeiliau mewn ychydig o gamau.
Ffôn symudol Android - dilynwch y camau isod i glirio’ch hanes:
Ffôn symudol IOS – dilynwch y camau isod i glirio’ch hanes:
Cyfrifiadur Windows – dilynwch y camau isod i glirio’ch hanes:
Mac – dilynwch y camau isod i glirio’ch hanes:
Yn incognito, does dim o'ch hanes pori, eich cwcis a’ch data gwefannau, na gwybodaeth a gofnodir mewn ffurflenni yn cael eu cadw ar eich dyfais. Mae hyn yn golygu nad yw’ch gweithgaredd yn ymddangos yn hanes eich porwr Chrome, felly fydd pobl sy’n defnyddio’ch dyfais chi hefyd ddim yn gweld eich gweithgaredd.
I bori’n incognito:
Mac – dilynwch y camau isod i glirio’ch hanes:
IOS – dilynwch y camau isod i glirio’ch hanes:
Os ydych chi'n defnyddio Internet Explorer ar gyfrifiadur, dilynwch y camau isod i glirio’ch hanes:
yna cliciwch ar OK, ar y gwaelod
Os ydych chi'n defnyddio Firefox ar gyfrifiadur, dilynwch y camau isod i glirio’ch hanes:
Os ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur sy’n cael ei rannu, neu os oes gan rywun fynediad i'ch cyfrifiadur chi, efallai y byddan nhw’n gallu darllen eich post sy'n dod i mewn ac yn mynd allan. I sicrhau bod eich cyfrif yn ddiogel, allgofnodwch bob tro ar ôl ei ddefnyddio a dewiswch gyfrinair na fydd pobl eraill yn gallu ei ddyfalu. Ar eich ffôn symudol, defnyddiwch adnabyddiaeth wyneb, sy'n haen ddiogelwch anodd ei thorri, ynghyd â chod pin diogel. Efallai yr hoffech ddefnyddio'r rhyngrwyd i gael mynediad i'ch negeseuon ebost, yn hytrach na lawrlwytho ap ebost, ond cofiwch allgofnodi bob tro ar ôl ei ddefnyddio.
Os bydd rhywun yn anfon negeseuon ebost atoch sy’n fygythiol neu’n aflonyddu arnoch, mae modd riportio hyn fel camdriniaeth ddomestig neu drosedd casineb. Argraffwch a chadwch y negeseuon ebost fel tystiolaeth a chysylltwch â ni yn un o'r ffyrdd hyn: