Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
1. Eich cyfrif |
2. Sut rydyn ni'n casglu tystiolaeth |
3. Cefnogaeth yr heddlu a chyfathrebu |
Mae'r dudalen hon yn nodi beth sy’n digwydd os byddwch yn riportio sbeicio i’r heddlu.
Os byddwch yn ei riportio ar-lein, bydd eich atebion yn cael eu hanfon i’n hystafell reoli. Byddwn yn eu trin yn yr un ffordd â phe baech wedi ein ffonio.
Os byddwch yn riportio rhywbeth i ni yn ddienw (heb roi eich manylion), efallai y bydd modd i ni barhau i ymchwilio i’r mater. Ond ni fyddwn yn gallu rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chi ynghylch ein hymchwiliad.
Os ydych chi’n gyfforddus siarad am yr hyn a ddigwyddodd, byddwn yn gofyn i chi fynd dros bedwar prif beth:
Efallai eich bod wedi dweud wrthym am rai o’r rhain yn barod adeg riportio i ni am y tro cyntaf. Rydyn ni’n sylweddoli y gall fod yn anodd dweud wrthym am yr un digwyddiadau fwy nag unwaith. Ond mae hyn yn rhan arferol o’r broses, ac nid yw’n golygu nad oeddem yn eich credu y tro cyntaf.
Byddwn yn gwrando arnoch ac yn cymryd eich adroddiad o ddifrif. Wnawn ni mo’ch barnu chi. Nid chi sydd ar fai am beth sydd wedi digwydd ichi.
Rydyn ni’n gwybod efallai na fyddwch chi’n cofio nac yn deall yn union beth ddigwyddodd i chi. Mae hynny’n iawn.
Cael prawf
Ar ôl i chi riportio digwyddiad sbeicio, efallai y byddwn yn gofyn i chi roi sampl wrin neu sampl gwaed i ni ar gyfer prawf fforensig. Gall hyn ganfod a yw rhywun wedi eich sbeicio.
Mae prawf fforensig yn golygu y gallwn ddefnyddio’r canlyniad mewn tystiolaeth yn y llys os byddwn yn canfod, ac yn dal, y sawl oedd wedi’i sbeicio. Dim ond yr heddlu sy’n gallu gwneud prawf fforensig, oni bai bod rhywun wedi ymosod arnoch chi’n rhywiol a’ch bod chi’n mynd i ganolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC) lle gallan nhw wneud y profion fforensig hyn hefyd, yn ogystal â rhoi cymorth arbenigol i chi.
Mae rhai cyffuriau’n gadael y corff o fewn 12 awr neu’n llawer cynt. Os byddwch yn riportio i ni cyn gynted â phosibl, gallwn gymryd sampl y gellid ei ddefnyddio ar gyfer prawf. Ond mae llawer o gyffuriau eraill yn aros yn y corff am lawer hirach, felly efallai y byddwn yn gallu gwneud prawf hyd at saith diwrnod ar ôl y digwyddiad.
Y prawf rydyn ni’n ei ddefnyddio yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddarganfod a yw rhywun wedi eich sbeicio. Gall ganfod mwy na chan math gwahanol o gyffuriau.
Byddwn yn ymweld â chi ble bynnag ydych chi
Os ydych chi’n riportio sbeicio o fewn saith diwrnod, bydd swyddog yn ymweld â chi ble bynnag ydych chi i roi cynhwysydd di-haint i chi ar gyfer y sampl wrin. Efallai y bydd meddyg yn dod gyda nhw i gymryd sampl gwaed.
Lle bo modd, byddwn yn gwneud ein gorau glas i anfon swyddog sy’n briodol i’ch rhyw, ond ni allwn warantu hyn. Ein blaenoriaeth yw anfon swyddog atoch cyn gynted â phosibl.
Os ydyn ni’n anfon eich sampl wrin neu sampl gwaed i ffwrdd i’w brofi, gall gymryd rhai wythnosau i’r canlyniadau ddod yn ôl.
Ond os oes mwy na saith diwrnod wedi mynd heibio ers i chi gael eich sbeicio, byddwn yn dal yn falch petaech yn ei riportio. Byddwn yn dal yn gallu ymchwilio i’ch achos, a byddwn yn gallu cynnig unrhyw gymorth y gall fod ei angen arnoch. Efallai y bydd eich adroddiad hefyd yn ein helpu i ganfod patrwm o achosion sbeicio.
Ond er bod profion fforensig yn gallu dweud wrthych chi a ni a yw rhywun wedi eich sbeicio, chi sy’n rheoli pethau. Os nad ydych chi eisiau rhoi sampl gwaed neu wrin ar gyfer profion fforensig, mae hynny'n iawn. A gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd i chi heb gael prawf ac ymchwiliad.
Os oes rhywun wedi eich sbeicio ag alcohol, mae ffyrdd eraill y gallwn ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd i chi.
Tystiolaeth arall
Os oes tystiolaeth arall o bosibl, byddwn yn gofyn i chi ei diogelu os oes modd. Gallai hyn gynnwys rhywbeth y gallai’r troseddwr fod wedi’i adael ar ei ôl ar y safle. Er enghraifft, gwydr neu nodwydd. Gallai hyn ein helpu i brofi beth ddigwyddodd.
Ond peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n credu bod unrhyw dystiolaeth. Gallwch chi riportio sbeicio ac efallai y byddwn yn ymweld â’r lleoliad i weld a oes lluniau teledu cylch cyfyng a thystiolaeth arall.
Rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni’n casglu tystiolaeth
Ar ôl i chi riportio beth ddigwyddodd, bydd swyddogion hyfforddedig yn gweithio ar eich achos. Byddant yn sicrhau eich bod yn cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch, ac yn ymchwilio i'r achos.
Un o’r swyddogion hyd ddylai fod eich pwynt cyswllt gyda ni. Mae hyn yn golygu pan fyddwch chi’n siarad â ni, yr unigolyn hwn fyddwch chi’n ei weld fel arfer. Bydd yn egluro beth sy’n digwydd ym mhob cam, yn ateb eich cwestiynau ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.