Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
1. Yr ymchwiliad |
2. Eich hawliau yn ystod yr ymchwiliad |
3. Cyfeirio achos at Wasanaeth Erlyn y Goron |
4. Beth sy'n digwydd os bydd achos sbeicio yn mynd i dreial |
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn sefydliad sy’n gyfrifol am benderfynu pa achosion ddylai fynd i dreial yn y llys. Mae ar wahân i’r heddlu a’r llywodraeth.
Os bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn penderfynu bod digon o dystiolaeth i fynd â’ch achos i’r llys, byddwn yn eich cefnogi chi’r holl ffordd drwy’r broses.
Gallwch hefyd gael help gan Cymorth i Ddioddefwyr a sefydliadau cymorth eraill ar gyfer dioddefwyr a thystion.
Sefydliadau cymorth i ddioddefwyr a thystion
Mae’n amrywio felly allwn ni ddim dweud wrthych faint yn union y bydd hyn yn ei gymryd. Gall fod bwlch o fisoedd lawer rhwng penderfynu mynd ag achos sbeicio i’r llys a’r adeg y bydd y treial yn cael ei gynnal.
Os bydd unigolyn a amheuir yn cael ei gyhuddo ac yn pledio'n 'ddieuog', mae'n debygol iawn y gofynnir i chi roi tystiolaeth yn y llys.
Os bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn argymell treial, bydd y cam cyntaf yn cael ei ‘glywed’ mewn Llys Ynadon. Bydd yn rhaid i’r sawl a amheuir, y cyfeirir ato yn y llys fel ‘y diffynnydd’, fod yn bresennol. Ni fydd angen i chi fod yn bresennol yn ystod y cam hwn.
Os yw’r diffynnydd yn pledio’n ‘ddieuog’ i’r drosedd, bydd angen i chi fynd i Lys y Goron ac ymddangos fel tyst. Yn yr achos hwn, cyfeirir atoch fel ‘tyst ar ran yr erlyniad’.
Mae’n naturiol teimlo ychydig yn nerfus am fynd i’r llys. Ond byddwn ni wrth law i’ch cefnogi chi’r holl ffordd drwy'r treial.
Gallwn drefnu ymweliad llys cyn y diwrnod. Gallwch ymgyfarwyddo â chynllun ystafell y llys. Gallwch hefyd gael esboniad o broses y llys.
Gallwch ofyn am 'fesurau arbennig' i’w gwneud yn haws i chi fynd i'r llys. Mae'r rhain yn cynnwys:
Os ydych yn dymuno, byddwch yn gallu ymweld â'r llys cyn y treial i edrych o gwmpas a chael esboniad o broses y llys.
Mae’r llysoedd yn agored i’r cyhoedd, a gallai newyddiadurwyr fod yno i adrodd ar yr achos.
Os oedd yr achos sbeicio’n cynnwys trais neu ymosodiad rhywiol, efallai y bydd y llys yn caniatáu anhysbysrwydd i chi fel dioddefwr. Os felly, mae’n anghyfreithlon i unrhyw un, gan gynnwys newyddiadurwyr, gyhoeddi eich enw nac unrhyw fanylion a allai ddatgelu pwy ydych chi, gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol.
Y rheswm am hyn yw bod pobl sy’n riportio i’r heddlu am droseddau rhywiol yn cael yr hawl yn awtomatig i beidio â chael eu henwi’n gyhoeddus drwy gydol eu bywydau.
Ar ôl y treial, gellid cael y diffynnydd yn euog neu’n ddieuog.
Os ceir yr unigolyn yn euog, gallai’r llys roi dedfryd iddo ef/hi. Gall y llys orchymyn gwahanol fathau o gosb. Gallai hyn fod yn ddedfryd o garchar, ond nid yw pob troseddwr yn cael ei anfon i’r carchar.
Fel arfer, bydd unrhyw un sy’n cael ei ganfod yn euog o sbeicio yn cael ei anfon i’r carchar. Mae sbeicio’n cario dedfryd o hyd at ddeng mlynedd yn y carchar. Os bu lladrad, ymosodiad rhywiol neu drosedd arall, gall y ddedfryd fod yn hwy fyth.
Mae euogfarn yn golygu bod troseddwr yn cael ei wahanu oddi wrth ei ffrindiau a’i berthnasau, a gall hefyd gael effaith hirdymor ar ei yrfa, ei berthnasoedd a’i ryddid i deithio. Os oedd yr achos sbeicio’n cynnwys trais neu ymosodiad rhywiol, efallai y bydd yn cael ei orchymyn i lofnodi’r gofrestr troseddwyr rhyw.
Ond yn dibynnu ar yr hyn a ddigwyddodd, gallai’r gosb am sbeicio fod yn orchymyn cymunedol. Gallai hyn gynnwys gwneud gwaith di-dâl, cael cyrffyw, neu gael ei wahardd rhag gwneud rhai pethau.
Rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd ar ôl treial, gan gynnwys gwybodaeth am apelio yn erbyn y ddedfryd, y Cynllun Cysylltu â Dioddefwyr, cyfiawnder adferol, gwneud cwyn ac iawndal.