Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Beth i'w ddisgwyl fel dioddefwr neu dyst i drosedd |
2. Beth sy'n digwydd ar ôl ichi riportio trosedd? |
3. Cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad |
4. Rhoi datganiad tyst neu ddatganiad dioddefwr |
5. Mynd i'r llys |
6. Beth sy'n digwydd ar ôl y treial? |
7. Mudiadau cymorth i ddioddefwyr a thystion |
Ar ôl y treial, bydd yr Uned Gofal Tystion yn dweud canlyniad eich achos wrthoch chi. Os bydd y diffynnydd yn cael ei ddyfarnu:
Bydd y rheswm dros y ddedfryd yn cael ei esbonio i chi. Os bydd y diffynnydd yn apelio yn erbyn ei gollfarn neu ei ddedfryd, byddwch yn cael gwybod am yr apêl a'i chanlyniad.
Os ydych chi’n credu bod dedfryd yn rhy isel, gallwch ofyn iddi gael ei hadolygu gan Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol. Mae angen ichi ofyn am adolygiad, mewn ysgrifen, o fewn 28 diwrnod ar ôl i’r llys benderfynu ar y ddedfryd.
I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau, ewch i wefan llywodraeth y Deyrnas Unedig neu GEG.
Cynllun Cyswllt Dioddefwyr (VCS)
Os yw’r troseddwr yn cael ei ddedfrydu i 12 mis neu fwy yn y carchar (neu’n cael ei gadw yn yr ysbyty am driniaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983) byddwch yn cael llythyr gan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (NPS) yn gofyn a ydych am ymuno â’r Cynllun Cyswllt Dioddefwyr.
Os oedd y drosedd yn drosedd dreisgar neu rywiol (a bod y troseddwr wedi’i ddedfrydu i 12 mis neu fwy) byddwch yn cael eich atgyfeirio’n awtomatig.
Os byddwch yn ymuno neilltuir Swyddog Cyswllt Dioddefwyr i chi a fydd yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i ddedfryd y troseddwr, er enghraifft os caiff ei symud i garchar agored, neu sut a phryd y caiff ei ryddhau.
Os oes gennych bryderon am yr hyn allai ddigwydd pan fydd rhywun yn cael ei ryddhau o’r carchar gellir trafod opsiynau amddiffyn, gan gynnwys atal y troseddwr rhag cysylltu â chi neu’ch teulu, gorchmynion atal neu amodau eu trwydded rhyddhau os oes amser yn weddill ar eu dedfryd.
Os ydych yn cael cyswllt digroeso gan droseddwr sydd yn y carchar, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan garcharor ar 0300 060 6699, ebostio [email protected] neu wneud cais 'dim cyswllt' ar wefan gov.uk.
Ni roddir gwybod i chi ble mae’r troseddwr yn cael ei gadw.
Gall y Cynllun Cyswllt Dioddefwyr hefyd siarad ar eich rhan yng ngwrandawiad Bwrdd Parôl y troseddwr. Gall roi eich adborth ar unrhyw ‘amodau trwydded’, y rheolau y mae’n rhaid i’r troseddwr eu dilyn os a phryd y caiff ei ryddhau ar barôl, er enghraifft peidio â chysylltu â chi a’ch teulu.
Os byddwch yn penderfynu peidio ag ymuno â’r VCS pan pan sonnir wrthych am y cynllun ond eich bod yn newid eich meddwl yn ddiweddarach, neu os na ofynnwyd i chi ond eich bod yn meddwl eich bod am ymuno, gallwch anfon e-bost at y Cynllun Cyswllt Dioddefwyr.
Gallwch gwyno os nad ydych chi’n fodlon ar wasanaeth neu os na allwch gael gwasanaeth y mae arnoch ei angen. Gallwch gwyno'n uniongyrchol i'r gwasanaeth (e.e. cwyno i’r heddlu neu GEG).
Os nad ydych chi’n fodlon ar yr hyn maen nhw’n ei ddweud, gallwch wneud cwyn i Ombwdsmon y Senedd a’r Gwasanaeth Iechyd.
Os ydych chi wedi dioddef trosedd sydd wedi'ch gadael ag anaf, neu ag eiddo sydd wedi'i golli neu wedi’i ddifrodi, gallwch wneud cais am iawndal.
Nesaf: Mudiadau cymorth i ddioddefwyr a thystion