Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Beth i'w ddisgwyl fel dioddefwr neu dyst i drosedd |
2. Beth sy'n digwydd ar ôl ichi riportio trosedd? |
3. Cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad |
4. Rhoi datganiad tyst neu ddatganiad dioddefwr |
5. Mynd i'r llys |
6. Beth sy'n digwydd ar ôl y treial? |
7. Mudiadau cymorth i ddioddefwyr a thystion |
Mae pob trosedd yn wahanol felly mae pob ymchwiliad yn wahanol, ond mae unrhyw ymchwiliad yn dechrau gyda'r un camau i sicrhau bod gennym yr holl wybodaeth angenrheidiol.
Ar y dudalen hon byddwn yn egluro beth sy'n digwydd ar ôl ichi riportio trosedd, pryd y cewch chi rif cyfeirnod trosedd a phryd y byddwn yn cysylltu â chi.
Yn gyntaf, byddwn yn sicrhau mai ni yw'r heddlu cywir i ymchwilio i'r drosedd. Er enghraifft, os digwyddodd y drosedd mewn gorsaf reilffordd, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig fyddai'r heddlu cywir; byddem yn anfon eich adroddiad atyn nhw ac fe fydden nhw’n ymchwilio.
Wedyn byddwn yn edrych ar yr wybodaeth sydd gennym ac yn penderfynu a allwn ni ymchwilio ymhellach i'ch adroddiad. Os penderfynwn ni na allwn ni ymchwilio i'ch adroddiad, byddwn yn cysylltu â chi i egluro pam.
Mae’n penderfyniad yn cael ei seilio ar bedwar ffactor allweddol:
Os gallwn ni ymchwilio ymhellach, byddwn yn cymryd camau cychwynnol. Gallai'r rhain gynnwys:
Dysgu mwy am dystiolaeth fforensig.
Mae dau ganlyniad posibl:
Pan fyddwn wedi gwneud penderfyniad, byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod.
Os byddwn yn cau'r ymchwiliad, mae'n debyg mai'r rheswm yw ein bod wedi cwblhau’n camau cychwynnol ac nad oes unrhyw bosibiliadau eraill y gallwn eu dilyn bryd hynny.
Weithiau rydym yn cael gwybodaeth newydd neu'n darganfod tystiolaeth newydd, ac os felly gallwn ailagor yr ymchwiliad a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
P'un a fydd hyn yn digwydd ai peidio, mae’ch adroddiad a'r wybodaeth sydd gennym yn werthfawr. Mae'n helpu i benderfynu ble a phryd y defnyddiwn ni adnoddau'r heddlu i olrhain ac atal troseddu.
Byddwn yn neilltuo swyddog ymchwilio i chi. Y swyddog yma fydd eich cyswllt yn ystod yr ymchwiliad, gan ateb eich cwestiynau a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
Os oes angen ichi roi datganiad, bydd y swyddog yn siarad â chi am y peth.
Os bydd yr annisgwyl yn digwydd a bod angen ichi fynd i'r llys, bydd y swyddog yn eich cyflwyno i aelod o'r Uned Gofal Tystion a fydd yn eich tywys drwy bob cam o'r broses.
Os oes gennych chi wybodaeth neu dystiolaeth newydd am drosedd sy'n bodoli eisoes, gallwch gysylltu â ni er mwyn diweddaru achos presennol neu riportio ar-lein.
Os hoffech chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am drosedd sydd eisoes wedi'i riportio, cysylltwch â ni er mwyn gofyn am ddiweddariad ar adroddiad trosedd ar-lein.