Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Beth i'w ddisgwyl fel dioddefwr neu dyst i drosed |
2. Beth sy'n digwydd ar ôl ichi riportio trosedd? |
3. Cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad |
4. Rhoi datganiad tyst neu ddatganiad dioddefwr |
5. Mynd i'r llys |
6. Beth sy'n digwydd ar ôl y treial? |
7. Mudiadau cymorth i ddioddefwyr a thystion |
Os ydych chi wedi dioddef trosedd neu'n dyst i drosedd, efallai y gofynnir ichi wneud datganiad tyst.
Dyma'ch disgrifiad wedi’i gofnodi mewn ysgrifen neu wedi'i recordio ar fideo o'r hyn a ddigwyddodd i chi, yr hyn a welsoch chi, a glywsoch chi neu’r hyn rydych chi’n ei wybod am y drosedd. Bydd swyddog yn gofyn cwestiynau i chi i ganfod beth yn union ddigwyddodd neu beth rydych chi'n ei wybod.
Byddwn yn ceisio trefnu amser a lle cyfleus ichi roi’ch datganiad. Gallai fod mewn gorsaf heddlu, eich cartref neu yn y gwaith.
Os ydych chi'n cael trafferth deall neu siarad Cymraeg neu Saesneg, gallwch ofyn am gyfieithydd. Gallwch ofyn hefyd am gyfieithiad o unrhyw ddogfennau mae angen ichi eu darllen yn y llys neu i’w hychwanegu at eich datganiad.
Pan fyddwch yn gwneud datganiad, bydd y swyddog:
Wrth lofnodi datganiad tyst, rydych chi’n cytuno bod y datganiad yn wir. Mae hyn yn golygu bod yr hyn rydych chi’n ei ddweud yn eich datganiad yn wir hyd y gwyddoch chi.
Efallai y bydd eich datganiad tyst yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth yn y llys.
Does dim rhaid ichi roi datganiad ond mae’n dal yn bosibl y gofynnir ichi fynd i'r llys a dweud beth rydych chi'n ei wybod.
Os ydych chi’n ddioddefwr, yn ogystal â rhoi datganiad tyst, gallwch hefyd roi Datganiad Personol Dioddefwr (VPS). Mae hyn yn eich galluogi i esbonio, yn eich geiriau chi’ch hun, sut mae'r drosedd wedi effeithio arnoch chi’n gorfforol, yn emosiynol, yn ariannol neu mewn unrhyw ffordd arall.
Os oes rhywun wedi'i ddyfarnu’n euog, bydd y llys yn ystyried eich VPS wrth benderfynu sut i'w cosbi nhw am y drosedd.
Gallwch wneud VPS:
Os nad yw’r un o'r rhain yn gymwys i chi, rydych chi’n dal yn cael gofyn am wneud VPS.
Os caiff y diffynnydd ei ddyfarnu’n euog, gallwch ofyn am gael darllen eich VPS yn y llys neu gael rhywun i'w ddarllen ar eich rhan.
Bydd y llys yn ystyried eich VPS cyn dedfrydu troseddwr, p'un a yw'n cael ei ddarllen ar goedd ai peidio.