Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Beth i'w ddisgwyl fel dioddefwr neu dyst i drosedd |
2. Beth sy'n digwydd ar ôl ichi riportio trosedd? |
3. Cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad |
4. Rhoi datganiad tyst neu ddatganiad dioddefwr |
5. Mynd i'r llys |
6. Beth sy'n digwydd ar ôl y treial? |
7. Mudiadau cymorth i ddioddefwyr a thystion |
Mae Cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad (VRR) yn rhoi hawl i ddioddefwyr ofyn am adolygiad o benderfyniad yr heddlu i beidio â chyhuddo rhywun dan amheuaeth.
Mae’r VRR yn gymwys i achosion lle mae person dan amheuaeth wedi’i adnabod ac wedi'i gyfweld o dan rybudd. Mae hyn yn digwydd naill ai ar ôl iddyn nhw gael eu harestio neu am eu bod wedi gwirfoddoli i gael eu cyfweld.
Mae gennych chi hawl i ofyn am adolygiad os yw hi’n llai na thri mis ers i'r heddlu benderfynu:
Mae hyn yn gymwys hyd yn oed:
Nid yw'n cynnwys penderfyniadau ynghylch:
Dysgwch beth allwch chi ei wneud os yw GEG yn penderfynu peidio â chyhuddo rhywun.
Nid yw’r VRR yn gymwys i achosion:
Weithiau mae ymchwiliad i drosedd yn parhau, felly er bod yr heddlu wedi penderfynu a ddylai rhywun sydd dan amheuaeth gael ei gyhuddo neu beidio, gall ystyried VRR gael ei ohirio nes bod yr ymchwiliad wedi'i gwblhau.
Mae'r cynllun yn gymwys i unrhyw benderfyniad a wnaed ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015.
Os yw’ch cais chi am adolygiad yn ymwneud â chynllun VRR y GEG, gallwch ofyn am adolygiad ar benderfyniad a wnaed ar neu ar ôl 5 Mehefin 2013. Gan mai cynllun gan y GEG yw hwn, mae'r hawl i gael adolygiad yn eu dwylo nhw. Ewch i wefan y GEG i gael rhagor o wybodaeth.
Rhaid ichi ofyn am adolygiad o fewn tri mis ar ôl penderfyniad yr heddlu i beidio â chyhuddo.
Cewch ofyn am adolygiad o'r achos os ydych chi:
Gallwch ofyn i rywun weithredu ar eich rhan, er enghraifft:
Bydd arnon ni angen cadarnhad ysgrifenedig bod ganddyn nhw ganiatâd i weithredu ar eich rhan.
I wneud cais am adolygiad o benderfyniad yr heddlu i beidio â chyhuddo, cofiwch gynnwys:
Llenwch ein ffurflen ar-lein syml neu ysgrifennwch i:
Hawl Dioddefwyr i Adolygiad
Connect Gwent
Gorsaf Pont-y-pŵl
Heol Glantorfaen
Pont-y-pŵl
NP4 6YN
Ein nod yw cysylltu â phobl o fewn 10 diwrnod gwaith er mwyn rhoi gwybod ein bod ni wedi cael eu cais.
Bydd swyddog, nad oedd yn rhan o'r achos, yn cael ei neilltuo i adolygu'r achos. Nid adolygu'r penderfyniad blaenorol yw rôl y swyddog, ond edrych o'r newydd ar y dystiolaeth a gwneud ei benderfyniad ei hun.
Fel arfer, mae adolygiad yn cael ei gwblhau o fewn 30 diwrnod gwaith. Mewn achosion cymhleth neu sensitif, gall gymryd mwy o amser. Fe gewch chi diweddariadau rheolaidd.
Mae chwe chanlyniad posibl i adolygiad:
Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod ichi am y canlyniad.
Os nad ydych chi’n fodlon â'r penderfyniad, gallwch wneud cais i'r Uchel Lys am adolygiad barnwrol.