Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os byddwch yn gweld swyddogion heddlu yn ystod digwyddiad neu orymdaith, byddant yn cyflawni amrywiol swyddogaethau. Mae’r rhain yn cynnwys atal trosedd ac anrhefn, atal torri’r heddwch a lleihau amhariad difrifol ar y gymuned yn ehangach. Bydd swyddogion yr heddlu yn siarad â threfnwyr cyn ac yn ystod y digwyddiad er mwyn cyflawni hyn.
Yn ystod gorymdeithiau neu brotestiadau mawr, bydd swyddogion yn dueddol o fod wedi’u lleoli mewn mannau allweddol.
Gallant hefyd fod wedi’u lleoli o flaen adeiladau amlwg, ac weithiau byddwn yn gosod rhwystrau dros dro. Bydd hyn naill ai er mwyn rheoli llif y bobl sy’n mynd heibio neu er mwyn atal cerbydau rhag stopio.
Bydd y rhan fwyaf o ddigwyddiadau a gorymdeithiau yn rhai heddychlon, heb unrhyw berygl i’r cyhoedd. Fodd bynnag, os oes trais neu anrhefn bydd ein swyddogion yn ymyrryd er mwyn atal rhagor o darfu ac arestio pobl os bydd angen.
Os ydych yn gweld trais neu anrhefn pan fyddwch mewn digwyddiad, symudwch bellter diogel i ffwrdd a dywedwch wrth swyddog heddlu cyn gynted ag y gallwch.
Er mwyn gweld pob ffordd arall i gysylltu, ewch i’n tudalen cysylltu â ni.
Weithiau bydd ein swyddogion yn ffilmio digwyddiad neu orymdaith. Gwneir hyn er mwyn casglu gwybodaeth neu dystiolaeth i’n cynorthwyo i wella sut rydym yn plismona digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.
Er enghraifft, lle bu trais neu anrhefn gallwn ddefnyddio’r fideo i ddod o hyd i’r rheini sy’n gyfrifol a gwneud yn siŵr nad ydynt yn tarfu ar ddigwyddiadau eraill. Er mwyn helpu i lunio achos, efallai y byddwn hefyd yn ffilmio fideo cyffredinol er mwyn cael teimlad o hwyliau’r dorf.