Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) |
2. Sut i riportio FGM |
3. Sefydliadau cymorth FGM |
Anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), sydd hefyd yn cael ei alw’n 'torri benywod' neu ‘enwaediad benywod', yw pan fydd organau cenhedlu benywod yn cael eu newid neu eu tynnu’n fwriadol am resymau anfeddygol.
Mae FGM yn digwydd oherwydd gwahanol resymau diwylliannol, crefyddol a chymdeithasol. Mae rhai cymunedau'n credu y bydd FGM yn helpu'r ferch mewn rhyw ffordd, megis ei pharatoi ar gyfer priodas neu enedigaeth.
Gall FGM beri problemau seicolegol, emosiynol a meddygol difrifol. Mae’n gallu golygu poen eithafol, sioc, haint a llawer o broblemau meddygol difrifol hirdymor eraill.
Does dim manteision iechyd i FGM. Dyma ragor o wybodaeth am agweddau meddygol FGM.
Mae FGM yn fath o gamdriniaeth plant a thrais yn erbyn menywod ac mae yn erbyn y gyfraith yn y Deyrnas Unedig.
Mae FGM yn cael ei grwpio’n bedwar prif fath:
Mae Deddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003 yn ei gwneud yn anghyfreithlon:
Mae FGM yn cario cosb o hyd at 14 blynedd yn y carchar.
Mae nifer o arwyddion y gallai merch fod wedi dioddef FGM:
Yn aml, fydd plant ddim yn gwybod bod FGM yn mynd i ddigwydd. Mae hyn yn golygu efallai na fydd llawer o arwyddion rhybuddio cyn iddo ddigwydd. Ond, weithiau fe fydd plant yn gwybod ymlaen llaw, sy’n gallu arwain at newid yn eu hymddygiad, megis gofyn am gyngor neu help gan weithwyr proffesiynol a ffrindiau.