Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Oherwydd natur ein gwaith a nifer y swyddogion a gyflogir gennym, mae honiadau o arfer gwael neu anghyfreithlon yn erbyn unigolion yn codi. Ein dyletswydd ni yw ymchwilio i bob un o’r achosion hyn. Gall y rhain arwain at wrandawiad camymddwyn cyhoeddus.
Mae gwrandawiadau camymddygiad yn cael eu cynnal i gyflwyno ffeithiau'r achos ac i ganiatáu i'r person esbonio’i ymddygiad a'r amgylchiadau sy'n gysylltiedig â'r honiad. Gall tystion gael eu galw hefyd i roi tystiolaeth.
Diben gwrandawiad cyhoeddus yw dangos bod ein system ddisgyblu yn agored ac yn dryloyw. Bydd yn dangos ein bod yn dal swyddogion sy'n torri safonau ymddygiad proffesiynol, neu'r rhai lle profir bod yna gamymddygiad, yn atebol am eu gweithredoedd.
Gall unrhyw aelod o’r cyhoedd neu’r wasg wneud cais i fynychu gwrandawiad camymddwyn, ar yr amod eu bod yn 18 oed neu hŷn.
Rydym yn dyrannu lleoedd yn y gwrandawiad ar sail y cyntaf i'r felin.
Sylwch y gall y cadeirydd hefyd benderfynu gosod amodau eraill cyn neu yn ystod y gwrandawiad.
I wneud cais am le mewn gwrandawiad, edrychwch ar y rhestr o wrandawiadau camymddwyn sydd i ddod a chwblhewch ein ffurflen archebu gyflym a syml. Os oes lle ar gael byddwn yn anfon e-bost cadarnhau atoch.
Allwn ni ddim ad-dalu unrhyw dreuliau y byddwch yn eu hysgwyddo wrth fynd i wrandawiad.
Weithiau bydd gwrandawiad camymddygiad yn cael ei ganslo ar fyr rybudd. Yn y sefyllfaoedd hyn gwnawn ein gorau i roi gwybod ichi, ond efallai na fydd yn bosibl. Mae'n ddrwg gennym os bydd hyn yn digwydd i chi.
Weithiau, fydd gwrandawiad camymddygiad ddim yn cael ei gynnal yn gyhoeddus, neu ran yn unig fydd yn cael ei chynnal yn gyhoeddus. I benderfynu hyn, mae'r cadeirydd yn ystyried:
Os bydd y cadeirydd yn penderfynu na ddylai'r dystiolaeth sydd i'w rhoi gan dyst neu unrhyw un arall gael ei datgelu’n gyhoeddus, fe fydd yn gofyn i'r cyhoedd gael eu symud o'r gwrandawiad.
Gall y sawl sy'n cadeirio gwrandawiad benderfynu gosod amodau penodol ynglŷn â’r gwrandawiad. Gallai'r rhain gynnwys:
Darllenwch ein hamodau mynediad i gael rhagor o wybodaeth am fynychu gwrandawiad camymddwyn.
Lle bynnag y bo modd, bydd ein lleoliadau yn cynnwys mynedfeydd a chyfleusterau i bobl anabl ond does dim modd gwarantu hyn. Rhowch wybod inni ymlaen llaw am eich anghenion ac fe geisiwn wneud trefniadau ar eich cyfer, neu roi gwybod i chi os na allwn ni.
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a byddwn yn ymateb yn Gymraeg.
Os hoffech ohebu yn Gymraeg ynglŷn â’r Gwrandawiad, anfonwch e-bost atom ni. Mae gwasanaethau cyfieithu ar gael.
Gall aelodau o’r cyhoedd fynd i wrandawiadau apeliadau fel sylwedyddion ond nid ydynt yn cael cymryd rhan yn y trafodion.