Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran yma:
1. Beth yw stelcio ac aflonyddu? |
2. Beth i’w wneud nawr os ydych chi’n cael eich stelcio neu’ch aflonyddu |
3. Amddiffyniad rhag stelcio neu aflonyddu ar-lein |
4. Sut i riportio stelcio neu aflonyddu |
5. Gorchmynion amddiffynnol |
6. Cymorth i ddioddefwyr a thystion stelcio ac aflonyddu |
Gallai stelcio neu aflonyddu ar-lein olygu stelcio drwy'r cyfryngau cymdeithasol, aflonyddu trwy neges destun neu waradwyddo trwy bostio lluniau neu fideos.
Gall ddigwydd i unrhyw un, ond mae'n digwydd yn fwyaf aml ochr yn ochr â mathau eraill o stelcio ac aflonyddu.
Mae yma gamau y gallwch eu cymryd i’ch cadw chi’ch hun yn ddiogel, ond dim ond yr hyn sy'n ddiogel i chi y dylech ei wneud.
Gwiriwch y gosodiadau preifatrwydd ar eich holl gyfrifon yn y cyfryngau cymdeithasol.
Mae gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol gyngor ar sut i wirio'ch gosodiadau ar yr holl brif lwyfannau yn y cyfryngau cymdeithasol (Facebook, X.com, YouTube, Instagram, LinkedIn, Snapchat a TikTok).
Amddiffynnwch eich ffôn, eich llechen a’ch cyfrifiaduron trwy ddefnyddio cyfrinair cryf neu PIN, neu defnyddiwch gyfuniad o'r ddau.
Gofalwch fod gennych chi feddalwedd wrth-feirws a mur tân wedi'u gosod ar eich dyfeisiau a'u bod nhw’n gyfredol. Mae hyn yn dod o hyd i ysbïwedd a allai fod wedi'i gosod ar eich dyfeisiau ac unrhyw ffeiliau sy'n anniogel i'w hagor. Rhagor o wybodaeth yn Get Safe Online.
Mae’n hawdd eich olrhain chi os yw'ch lleoliad wedi cael ei droi ymlaen ar eich ffôn neu’ch dyfeisiau eraill. Mae rhai apiau yn troi’r gosodiadau lleoliad ymlaen yn awtomatig, ond gallwch chi ddiffodd y rhain trwy fynd i'ch gosodiadau:
Neu gallwch chi ddewis rhannu’ch lleoliad gyda ffrindiau a theulu dibynadwy yn unig:
Gall llawer o ffonau, oriorau clyfar a dyfeisiau ffitrwydd gael eu gosod i anfon eich lleoliad hysbys diwethaf at gysylltiadau brys, ond os yw'r cysylltiad rydych chi wedi’i enwi yn eich stelcio neu'n eich aflonyddu, tynnwch eu henw nhw.
Gwybodaeth am sut i wneud hyn:
Mae’r tracwyr hyn yn cael eu defnyddio i helpu pobl i ddod o hyd i eitemau coll, ond os cân nhw eu gollwng i mewn i fag neu boced, neu os cân nhw eu cuddio mewn car, mae modd eu defnyddio nhw i stelcio pobl.
Os gwelwch chi draciwr nad yw'n perthyn i chi, tynnwch lun ohono lle daethoch chi o hyd iddo (os yw'n ddiogel gwneud hynny), ac os ydych chi'n credu ei fod yn rhan o batrwm o stelcio neu aflonyddu, naill ai riportiwch y peth i ni neu dywedwch wrth y swyddog sy'n delio â'ch achos, os yw'n achos sydd ar ei hanner.
Mae'r rhain yn ddyfeisiau sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd, gan gynnwys popeth o glychau drws i beiriannau golchi.
Gall rhai o'r dyfeisiau hyn gael eu defnyddio gan stelcwyr neu aflonyddwyr i glustfeinio, neu i wneud yr aflonyddu.
Os oes gennych chi unrhyw ddyfeisiau clyfar yn eich cartref chi sydd wedi'u gosod gan stelciwr sy ddim yn byw yn eich tŷ chi erbyn hyn, ystyriwch wneud y pethau yma:
Newidiwch y cyfrinair a roddwyd i chi i ddechrau am gyfrinair cryfach.
Dylech osgoi defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol neu fancio ar-lein drwy ddefnyddio Wi-Fi cyhoeddus gan nad yw hynny’n ddiogel yn aml ac fe allai’ch manylion gael eu dwyn. I gadw'n ddiogel wrth ddefnyddio Wi-Fi cyhoeddus cysylltwch â rhwydwaith preifat rhithwir (VPN).
Os ydych chi'n poeni am gael eich cloi allan o'ch cyfrifon banc neu’n poeni y gallai rhywun gyfyngu mynediad i'ch arian, siaradwch â'ch banc. Gall rhai banciau dynnu sylw at gyfrif a allai fod mewn perygl.
Nesaf: Sut i riportio stelcio neu aflonyddu