Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran yma:
1. Beth yw stelcio ac aflonyddu? |
2. Beth i’w wneud nawr os ydych chi’n cael eich stelcio neu’ch aflonyddu |
3. Amddiffyniad rhag stelcio neu aflonyddu ar-lein |
4. Sut i riportio stelcio neu aflonyddu |
5. Gorchmynion amddiffynnol |
6. Cymorth i ddioddefwyr a thystion stelcio ac aflonyddu |
Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n eu nabod, wedi profi dau neu fwy o ddigwyddiadau stelcio neu aflonyddu, gallwch riportio’r peth i ni.
Rydyn ni’n deall y gall fod yn anodd dweud wrthon ni am beth sydd wedi digwydd, ond rydyn ni’n awyddus i glywed gennych. Rydyn ni’n cymryd y troseddau yma o ddifrif.
Cyn ichi riportio, does dim angen ichi gasglu 'tystiolaeth' am beth sydd wedi bod yn digwydd, fel negeseuon testun, fideos neu luniau. Gall unrhyw beth sydd gennych fel hynny fod yn ddefnyddiol inni, ond peidiwch ag oedi i'w gael cyn ichi riportio.
Fe allai’ch gwybodaeth chi ein helpu i ddod â'r troseddwr o flaen eu gwell a sicrhau eich bod chi, a phobl eraill mewn sefyllfa debyg, yn cael eich cadw'n ddiogel.
Oes rhywun mewn perygl uniongyrchol? Oes trosedd yn digwydd neu oes un newydd ddigwydd? Os felly, ffoniwch 999 nawr a gofynnwch am yr heddlu.
Os oes gennych chi nam ar eich clyw neu ar eich lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth SMSbrys.
Os ydych chi'n ddefnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain (BSL), gallwch ffonio 999 BSL i ddefnyddio cyfieithydd BSL o bell.
Os ydych chi mewn perygl ond na allwch chi siarad ar y ffôn, dylech chi ffonio 999 o hyd, yna dilynwch y cyfarwyddiadau hyn.
Gallwch riportio stelcio neu aflonyddu ar-lein.
Bydd ein hystafell reoli yn trin eich adroddiad yn yr un ffordd yn union â phe baech chi wedi siarad â swyddog yn uniongyrchol.
Os hoffech chi siarad â rhywun, Mae rhywun ar gael i ateb ein rhif ffôn di-frys cenedlaethol 24/7. Ffoniwch ni ar 101 a riportiwch yr hyn ddigwyddodd neu ofyn am gyngor.
Os hoffech chi siarad wyneb yn wyneb â swyddog, gallwn ddarparu amgylchedd diogel a chyfforddus yn unrhyw un o’n gorsafoedd heddlu.
Os oes angen cyfieithydd arnoch, gallwn ddarparu rhywun dros y ffôn i ddechrau ac wyneb yn wyneb yn nes ymlaen.
Byddwn ni’n cadw mewn cysylltiad â chi drwy gydol yr ymchwiliad.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd ar ddioddefwyr stelcio neu aflonyddu angen cartref arall dros dro neu yn y tymor hirach. Efallai y bydd arnoch chi angen gorchymyn llys i atal y tramgwyddwr rhag dod atoch chi, neu efallai bod angen cwnsela neu gymorth.
Rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â chynghorwyr sydd wedi'u hyfforddi'n dda ac nad ydyn nhw’n aelodau o’r heddlu a all helpu gydag ôl-ofal i chi a'ch teulu.
Os bydd angen ichi fynd i’r llys mae gwasanaethau cymorth ar gael hefyd fel na fyddwch chi’n teimlo eich bod chi wedi'ch llethu nac yn teimlo bod y broses gyfreithiol yn ddieithr.
Os oes rhywun rydych chi'n eu nabod wedi dioddef stelcio neu aflonyddu ac nad ydyn nhw’n teimlo eu bod nhw’n gallu siarad â'r heddlu eto, riportiwch y peth eich hun. Byddwn ni’n cofnodi'r digwyddiad ac yn eich helpu i gefnogi'r dioddefwr os oes angen.
Gallwch hefyd riportio fel tyst, hyd yn oed os nad ydych chi’n nabod y dioddefwr.
Gallwch riportio'n ddienw ar wefan Crimestoppers neu drwy ffonio 0800 555 111.
Mae unrhyw wybodaeth y gallwch ei rhoi yn werthfawr iawn i'n helpu i gynllunio sut rydyn ni’n plismona pob ardal, ond heb eich manylion efallai na fyddwn ni’n gallu ymchwilio'n llawn i'r digwyddiadau stelcio neu aflonyddu.
Nesaf: Gorchmynion amddiffynnol