Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yma fe welwch fanylion sut y mae’r heddlu’n delio gyda’r cerbydau wedi’u colli neu wedi’u dwyn yr ydym yn dod o hyd iddynt.
Os byddwn yn dod o hyd i gerbyd ar ôl i rywun riportio ei fod wedi’i golli neu wedi’i ddwyn, rydym yn ei symud i garej gweithredwr achub i'w gadw'n ddiogel.
Rydym yn trin yr holl gerbydau sydd wedi’u colli neu eu dwyn y down o hyd iddynt fel cerbydau sydd wedi’u gadael ac yn eu symud er mwyn:
Byddwn yn anfon llythyr hysbysiad i geidwad cofrestredig a/neu berchennog y cerbyd gyda chyfarwyddiadau sut i drefnu i gasglu’r cerbyd.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalen cerbydau wedi’u powndio.
Sylwch: os yw’ch cerbyd wedi’i golli neu wedi’i ddwyn, bydd rhaid i chi neu’ch yswiriwr neu'r gyrrwr (os nad chi oedd y gyrrwr ar y pryd), dalu'r taliadau statudol.
Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn y taliadau statudol y bydd yn rhaid i chi eu talu yn Rheoliadau Symud Ymaith, Storio a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) 2023.
Ar gyfer cerbydau a atafaelwyd cyn 6 Ebrill 2023 bydd yn rhaid i chi dalu’r taliadau a restrir yn Rheoliadau Symud Ymaith, Storio a Gwaredu Cerbydau (Symiau a Thaliadau Rhagnodedig) 2008.
Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ffonio’r gweithredwr achub (mae’r rhif ffôn ar y llythyr hysbysiad) a threfnu apwyntiad i gasglu eich cerbyd. Gallai hyn arbed siwrnai wastraff a lleihau eich amser aros.
Tra bod eich cerbyd yn y garej adfer efallai y byddwn yn manteisio ar y cyfle i gynnal archwiliad fforensig arno, ond ni fydd hynny’n eich atal rhag ei gasglu ar unwaith.
Os cafodd eich cerbyd ei ddwyn rydym yn argymell yn gryf eich bod yn mynd ag ef i garej ar gyfer archwiliad cyn eich bod yn ei yrru eich hun. Efallai ei fod wedi dioddef difrod pan oedd yn cael ei yrru gan y lleidr.
Os ydych wedi gwneud hawliad yswiriant ar gyfer cerbyd sydd wedi’i ddwyn, rhaid i chi siarad â’ch cwmni yswiriant cyn trefnu i’w gasglu. Gallai fod gan y cwmni yswiriant hawl ar y cerbyd a’i fod eisiau talu’r taliadau a’i gasglu.
Os ydych eisoes wedi anfon eich V5C (dogfen gofrestru) at y cwmni yswiriant, bydd angen i ni gael cadarnhad ysgrifenedig gan y cwmni yswiriant bod gennych yr hawl i gasglu’r cerbyd.
Ni allwn ryddhau eich cerbyd o’n gofal oni bai bod staff y depo adfer wedi gwirio Rhif Adnabod y Cerbyd (VIN). Ni allant wneud hynny os yw’r cerbyd wedi’i gloi.
Os yw'r cerbyd wedi'i gloi ac nad oes gennych allwedd, neu os na wnaiff eich allwedd chi ei agor, byddwn yn trefnu i saer cloeon gael mynediad (ar eich traul chi). Ni fyddwn yn rhyddhau’r cerbyd i chi nes ein bod wedi gwneud hyn. Gall gymryd nifer o ddyddiau.