Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yma gallwch weld sut i hawlio cerbyd sydd wedi’i atafaelu yn ôl o dan Adran 165A Deddf Traffig y Ffyrdd 1998. Golyga hyn bod gan swyddog sail resymol i gredu nad oedd gan y gyrrwr yswiriant neu nad oedd yn gyrru’n unol â’i drwydded yrru.
Os yw eich cerbyd wedi’i atafaelu am y rheswm hwn dylai bod y gyrrwr wedi derbyn hysbysiad atafaelu.
Os yw eich cerbyd mewn pownd am reswm arall, ewch i’n tudalen cerbydau wedi'u powndio.
Fe welwch fanylion sut i hawlio eich cerbyd yn ôl, a’r dogfennau adnabod sydd angen i chi eu cyflwyno, ar yr hysbysiad atafaelu. Mae gennych chi saith diwrnod gwaith i fynd i'r swyddfa heddlu sydd wedi’i rhestru ar y ffurflen.
Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn y taliadau statudol y bydd yn rhaid i chi eu talu yn Rheoliadau Symud Ymaith, Storio a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) 2023.
Ar gyfer cerbydau a atafaelwyd cyn 6 Ebrill 2023 bydd yn rhaid i chi dalu’r taliadau a restrir yn Rheoliadau (Cadw a Gwaredu Cerbydau Modur a Atafaelir) (Diwygio) 2008 Deddf Traffig Ffyrdd 1988.
Pennir y taliadau hyn gan y llywodraeth, nid yr heddlu, ac maent yn amrywio yn dibynnu ar bwysau a chyflwr y cerbyd.
A fyddech cystal â nodi, mae’r taliadau storio dyddiol yn dechrau o hanner dydd ar y diwrnod wedi i’r cerbyd gael ei atafaelu.
Os yw’ch cerbyd dros dair oed ac nad oes dystysgrif pasio prawf MOT gyfredol gennych chi, dim ond i fynd o'r garej sydd wedi achub y cerbyd i orsaf brofi MOT y cewch ei yrru ar ffordd gyhoeddus. Rhaid i chi:
Os rhoddwyd hysbysiad gwahardd PG9 i’ch cerbyd, os nad yw’n addas ar gyfer y ffordd neu os nad yw’n tanio, bydd angen i chi drefnu i weithredwr achub cerbydau wedi’i yswirio a’i hyfforddi’n llawn ac sydd â’r offer priodol i’w gasglu a chi fydd yn gyfrifol am gost.
Os ydych yn gyrru gyda thrwydded dros dro rhaid i chi ddod â pherson gyda chi, sydd:
Gwnewch yn siŵr bod gennych blatiau D neu L ar y cerbyd.
Dewch â set o allweddi, rhag ofn na adawodd y gyrrwr (os nad chi oedd yn gyrru) yr allweddi yn y cerbyd.
Os nad oes gan eich cerbyd y platiau cofrestru cywir a’ch bod yn bwriadu ei yrru, rhaid i chi roi platiau dilys ar y cerbyd pan fyddwch yn ei gasglu.