Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymateb Heddlu Gwent i uwch-gŵyn Liberty a Southall Black Sisters ynghylch plismona a statws mewnfudo:
Wedi’i gyfeirio at:
Syr Thomas Winsor
Prif Arolygydd Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi a Phrif Arolygydd Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi
___________________________
Report on Liberty and Southall Black Sisters’ super-complaint on policing and immigration status
Mae'r uwch-gŵyn a wnaed gan Liberty a Southall Black Sisters yn codi materion pwysig bod rhaid i'r gwasanaeth heddlu weithio mewn cydweithrediad gyda'n partneriaid er mwyn sicrhau nad yw dioddefwyr a thystion â statws mewnfudo ansicr yn cael eu hatal rhag ymgysylltu â'r heddlu ac i sicrhau eu bod yn cael cyfiawnder. Rwyf wedi ymroi i wneud Heddlu Gwent yn hygyrch i bob unigolyn, gan sicrhau bod dioddefwyr a thystion yn cael eu cymryd o ddifrif ac yn cael y gefnogaeth angenrheidiol, ni waeth beth yw eu cefndir na’u statws mewnfudo.
Rwyf yn falch bod Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, o’r un farn â mi, fel y gwelir gan y blaenoriaethau Rhoi Cymorth i Ddioddefwyr a Chydlyniant Cymunedol yn ei Gynllun Heddlu a Throsedd yr wyf i, fel Prif Gwnstabl, yn gyfrifol am ei gyflawni.
Gwnaeth yr adroddiad dri argymhelliad i Brif Gwnstabliaid. Rwyf wedi cael golwg ar yr ymateb a ddarparwyd ar eich cyfer gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ac rwyf yn deall y sylwadau a wnaed yn yr ymateb hwnnw gan y Cyngor. Yn unol â'r cais, ysgrifennaf i ddarparu diweddariad chwe mis ar y sefyllfa mewn perthynas â'r tri argymhelliad yn Heddlu Gwent.
Argymhelliad 1.
Fel mesur dros dro, wrth aros am ganlyniad argymhelliad 2, os mai dim ond pryderon neu amheuon ynghylch statws mewnfudo dioddefwr sydd gan swyddogion, rydym yn argymell eu bod yn rhoi'r gorau i rannu gwybodaeth am ddioddefwyr cam-drin domestig gyda'r Gwasanaethau Mewnfudo ar unwaith. Yn hytrach, dylai swyddogion heddlu gysylltu'r dioddefwr gyda thrydydd parti a all roi cyngor a chymorth iddynt, fel yr amlinellir yn argymhelliad 4 (ynghylch creu llwybrau hysbysu diogel). Dylai swyddogion heddlu wneud hyn os ydynt yn amau statws mewnfudo dioddefwr, nid os oes ganddynt dystiolaeth bod trosedd wedi cael ei chyflawni. Bydd y Coleg Plismona yn datblygu canllaw ar unwaith ar gyfer y gwasanaeth heddlu i egluro'r agwedd hon.
Rydym yn disgwyl yn eiddgar am ganlyniadau'r argymhellion a wnaed i'n partneriaid yn yr adroddiad hwn er mwyn gallu rhoi sylw llawn i'r argymhelliad hwn. Fel mesur dros dro rydym wedi cyflwyno cyfarwyddyd i beidio â rhannu gwybodaeth yn yr amgylchiadau a amlinellir yn yr argymhelliad hwn. Mae Ditectif Ringyll, ein pwynt cyswllt cudd-wybodaeth gyda'r Gwasanaethau Mewnfudo, sy'n gweithredu fel negesydd rhwng y llu a'r gwasanaethau mewnfudo, hefyd wedi cael cyfarwyddyd i wrthod unrhyw gais i rannu gwybodaeth yng nghyd-destun yr argymhelliad hwn.
Rydym yn ail ysgrifennu ein polisi Cam-drin Domestig ar hyn o bryd i sicrhau bod yr ymagwedd hon yn cael ei chorffori mewn polisi ac i sicrhau bod ein swyddogion a staff yn ei deall.
Argymhelliad 4.
Gyda golwg ar argymhelliad 1, ac mewn ymgynghoriad / cydweithrediad â sefydliadau arbenigol lleol neu genedlaethol, dylai prif gwnstabliaid gymryd camau i sicrhau bod pawb ymfudol sy'n dioddef neu'n dyst i drosedd yn gallu hysbysu'r heddlu ac asiantaethau statudol eraill yn ddiogel er mwyn derbyn cymorth effeithiol. Dylent:
Mae gan y llu gydberthnasau gyda sefydliadau sy'n gallu cynorthwyo i roi cefnogaeth effeithiol i ddioddefwyr a thystion â statws mewnfudo ansicr. Rwyf yn awyddus i gefnogi Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd i gyflawni'r argymhellion a wnaed ar ei gyfer ef yn yr adroddiad hwn, er mwyn i ni ddatblygu ein partneriaethau gyda sefydliadau cefnogi er mwyn gwella ein hymateb a'n gwasanaeth i ddioddefwyr a thystion â statws mewnfudo ansicr.
(Argymhelliad 6. I gomisiynwyr yr heddlu a throsedd (neu gyfatebol). Cynnal asesiad o fynediad lleol i sefydliadau neu rwydweithiau arbenigol sy'n cefnogi dioddefwyr a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol i ddatblygu rhwydweithiau o'r fath).
Yn ddiweddar, mae rheolwr The Gap Centre (elusen sy'n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches) wedi ymuno â'n Grŵp Cynghori Annibynnol. Mae hwn yn ychwanegiad cadarnhaol i'n Grŵp Cynghori Annibynnol amrywiol a thrwy ymdrechion yr unigolyn hwn rydym yn bwriadu datblygu ein cydberthnasau gyda chymunedau mewnfudwyr. Rydym yn croesawu gwaith craffu'r Grŵp Cynghori Annibynnol ar y ffordd rydym yn dangos ein bod yn dryloyw a’r ffordd rydym yn meithrin hyder ymysg pobl yn y gymuned hon i gysylltu â'r heddlu pan fyddant yn dioddef neu'n dyst i drosedd.
Ym mis Gorffennaf 2021, o ganlyniad i argymhellion a wnaed yn flaenorol gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi, bydd y llu yn cyflwyno Uned Gofal Dioddefwyr. Pwrpas yr uned yw defnyddio dull cyson o ddiwallu anghenion dioddefwyr. Bydd y tîm yn cyflawni asesiad o bob dioddefwr a fydd yn galluogi gwell dealltwriaeth o anghenion a gofynion dioddefwr ac a fydd yn cyfeirio pobl, ble y bo'n berthnasol, at asiantaethau cefnogi er mwyn iddynt gael cymorth.
Bydd y llu yn gallu cyflawni gweddill yr argymhelliad hwn ac yn gallu gwneud newidiadau polisi, ble y bo angen, ar ôl derbyn y canllawiau gan y Coleg Plismona (argymhelliad 3).
Argymhelliad 5.
Gyda golwg ar argymhelliad 1, wrth aros am y datblygiadau a amlinellir mewn argymhellion eraill, ac mewn ymgynghoriad / cydweithrediad gyda sefydliadau arbenigol lleol a chenedlaethol, dylai prif gwnstabliaid a chomisiynwyr heddlu a throsedd gymryd camau, trwy'r sianelau priodol, i feithrin hyder ymysg dioddefwyr a thystion ymfudol i hysbysu'r heddlu am droseddau trwy lwybrau hysbysu diogel, heb ofni y bydd rheolau mewnfudo’n cael blaenoriaeth.
Mae'r llu yn aros am gyhoeddiad canllaw cenedlaethol a datblygiad argymhellion a wnaed i'n partneriaid cyn cyflawni'r argymhelliad hwn. Wrth aros am y canllaw hwnnw, mae'r llu yn awyddus i archwilio cyfleoedd i feithrin hyder dioddefwyr a thystion ymfudol yn Heddlu Gwent. Mae gan y Tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant gysylltiadau gyda sefydliadau fel yr wyf wedi disgrifio uchod, ac rydym yn chwilio am ffyrdd i wella'r cysylltiadau hynny er mwyn codi hyder pobl yn Heddlu Gwent a dileu unrhyw ofn y bydd rheolau mewnfudo’n cael blaenoriaeth.
Rwyf wedi ymroi i weithio gyda'n partneriaid a chydweithwyr yng Nghyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a chyflawni'r newid sydd ei angen i sicrhau bod dioddefwyr trosedd yn cael eu trin fel dioddefwyr yn gyntaf ac yn flaenaf, ni waeth beth yw eu statws mewnfudo.
Yn gywir
Pam Kelly | Prif Gwnstabl - Heddlu Gwent
___________________________