Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:27 03/09/2021
Rhwng 7pm ar 1 Medi a 6pm ar 2 Medi, cafodd moped Honda 125cc du (CK65YEL) ei ddwyn o ardal Blaenau. (2100309238)
Rhwng 4.30pm – 7pm ar 2 Medi, cafodd moped Honda 125cc du arall (RA51UBB) ei ddwyn o gyfeiriad yn Eureka Place, Glynebwy. (2100309721)
Yn ddiweddarach y noson honno roedd y cerbyd hwn yn rhan o wrthdrawiad traffig ffyrdd rhwng dau gerbyd ar Wesleyan Row, Glynebwy.
Cawsom ein hysbysu bod dau ddyn wedi gadael y cerbyd ac wedi rhedeg o'r safle.
Ni riportiwyd unrhyw anafiadau.
Dywedodd Arolygydd Shane Underwood: "Mae ein swyddogion yn gweithio'n galed i ddod o hyd i'r bobl gyfrifol.
"Os ydych chi'n adnabod y bobl gyfrifol, neu os oeddech yn yr ardaloedd hyn ar y pryd, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth rydych yn credu gallai fod o gymorth i'n swyddogion gyda'u hymholiadau, ffoniwch 101 gan ddyfynnu'r rhifau cyfeirnod perthnasol a ddangosir uchod.
"Yn y cyfamser, hoffwn ofyn yn daer ar berchnogion mopedau a beiciau modur yn yr ardal i fod yn arbennig o ofalus wrth gloi eu cerbydau.
"Gallwch leihau'r risg o ddwyn trwy ddefnyddio clo disg i helpu i gloi'r disg brêc blaen, trwy roi cadwyn trwy'r olwyn gefn a thrwy orchuddio'r cerbyd ar ôl defnyddio clo ar y llyw a thynnu'r allweddi."
Gofynnir i unrhyw un ag unrhyw wybodaeth am yr achosion o ddwyn ffonio 101, gan ddyfynnu'r rhifau cyfeirnod uchod, neu anfon neges uniongyrchol atom trwy gyfrwng Facebook neu Twitter.
Fel arall, gallwch roi gwybodaeth yn ddienw i Crimestoppers ar 0800 555 111.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chadw eich moped yn ddiogel rhag cael ei ddwyn, ewch i https://www.gwent.police.uk/cp/crime-prevention/keeping-vehicles-safe/theft-motorcycles-scooters/.