Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Rydym yn apelio am wybodaeth i gynorthwyo swyddogion sy’n ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd marwol ar Heol Pandy, Bedwas tua 1pm dydd Sadwrn 25 Medi.
Aeth swyddogion i safle’r gwrthdrawiad, ynghyd â pharafeddygon o Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, i gynorthwyo i reoli traffig.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng beic, Ford Transit a dau gerbyd arall – Hyundai Tucson a Vauxhall Vivaro – a oedd wedi parcio ar y pryd.
Cyhoeddodd meddyg ambiwlans awyr fod y seiclwr, dyn 76 oed o ardal Bedwas, wedi marw yn y fan a’r lle.
Arestiwyd dyn 50 oed o Fedwas ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus. Mae wedi cael ei ryddhau tra bod yr ymchwiliad yn mynd yn ei flaen.
Mae ymholiadau’n parhau a gofynnwn i unrhyw un a oedd yn ardal Heol Pandy ym Medwas rhwng 12.45pm a 1.15pm gysylltu â ni.
Rydym yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, nad ydynt wedi siarad â swyddogion eto, i gysylltu â ni.
Gofynnwn yn daer ar unrhyw fodurwyr â delweddau CCTV neu gamera car o’r ardal adeg y gwrthdrawiad i gyflwyno eu hunain hefyd.
Gall unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â ni ar 101, gan grybwyll rhif cofnod 2100338341. Gallwch anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter hefyd.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.