Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw rydym yn lansio ein blog misol newydd ar gyfer Casnewydd a Sir Fynwy.
Bydd yn rhoi dealltwriaeth i chi o sut yr ydym yn gweithio gyda'n partneriaid, yr hyn y mae ein timau plismona yn y gymdogaeth yn canolbwyntio arno ac yn tynnu sylw at aelodau ein cymunedau sy'n helpu eu gwneud yn wych. Byddwn hefyd yn dathlu'r gwasanaethau hanfodol sydd ar gael i'ch cefnogi chi, dioddefwyr troseddau ac i’n cymunedau ehangach.
Yn y rhifyn cyntaf hwn, rydym yn canolbwyntio ar Bilgwenlli, Casnewydd.
Dros y 12 mis diwethaf, byddwch wedi gweld gweithgareddau newydd yn cael eu lansio i wneud Pilgwenlli yn fwy diogel. O'n menter Strydoedd Saffach, yr ymgyrch 'Dim Esgus’ i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched a phresenoldeb cynyddol tîm Dangos y Drws i Drosedd, mae llawer wedi bod yn digwydd ym Mhilgwenlli.
Tîm Plismona Cymdogaeth Pilgwenlli
Mae’r tîm plismona cymdogaeth ym Mhilgwenlli wedi bod allan yn siarad â'r gymuned i ddeall y pethau sy'n bwysig ac sy’n peri pryder iddynt. Maent wedi nodi eu bod yn fwy ymwybodol o ymddygiad gwrthgymdeithasol, delio cyffuriau a cham-fanteisio rhywiol. Mae ymgysylltu â'n cymunedau yn allweddol i bopeth rydym ni’n ei wneud, a sut rydym ni’n diogelu ac yn tawelu meddyliau pobl yng Ngwent gyfan.
Mae Cwnstabl Heddlu Clare Drayton, ein swyddog lleihau trosedd ac anhrefn, wedi sicrhau bod mwy na phedwar safle lle'r oedd ymddygiad gwrthgymdeithasol, defnyddio cyffuriau a delio cyffuriau yn digwydd yn awr wedi’u cau.
Dywedodd Clare:
"Wrth wrando ar bryderon ein cymuned ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, defnyddio cyffuriau a delio cyffuriau sy'n gysylltiedig â'r cyfeiriadau hyn ym Mhilgwenlli, rydym wedi cael gorchmynion cau ac wedi gweld y safleoedd hyn yn cau.
"Mae'r ymddygiad hwn yn cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd trigolion ac ni fydd yn cael ei oddef yn ein cymunedau. Rwy'n gobeithio y gall hyn roi sicrwydd i drigolion, os oes ganddynt bryderon ynghylch safleoedd sy’n peri problemau, y gallant roi gwybod i ni a byddwn yn gweithio'n galed gyda'n partneriaid i weithredu."
Gyda safonau masnach, mae Clare a gweddill ein tîm plismona cymdogaeth wedi cynnal sawl gwarant i ganfod ac atal trosedd. Mewn un warant yn unig, fe wnaethant atafaelu dros 100,000 o sigaréts anghyfreithlon. Mewn gwarant arall, aethant i eiddo ac atafaelu 1.5 cilogram o ganabis a dros £22,000 o arian parod gan rywun a oedd dan amheuaeth o werthu canabis. Cafodd dyn 27 oed ei arestio a'i ryddhau'n ddiweddarach ar fechnïaeth.
Rydym hefyd wedi cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sy'n gwahardd pobl rhag yfed alcohol neu ymddwyn mewn modd sy'n debygol o achosi braw neu ofid i eraill, megis cymryd cyffuriau, yng nghanol Pilgwenlli. Rhoddwyd mwy na 400 o docynnau neu rybuddion. Dywedodd Rhingyll tîm plismona cymdogaeth Pilgwenlli, Mervyn Priest:
"Yn dilyn cyflwyno a gweithredu'r gorchymyn, rydym wedi gweld lleihad yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol Pilgwenlli. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn parhau i helpu i wneud ein cymuned yn lle mwy diogel i bawb."
Pryder arall a nodwyd ym Mhilgwenlli oedd cam-fanteisio rhywiol. Mae hyn yn faes mae ein tîm plismona cymdogaeth eisoes wedi bod yn canolbwyntio arno, ac felly buom yn gweithio mewn partneriaeth â grwpiau lleol i sefydlu Ymgyrch Wyvern.
Fel rhan o'r gwaith hwn, sydd wedi parhau drwy gydol eleni, cyhuddwyd dros 40 o bobl o lithio. Bu ein swyddogion hefyd yn ymgysylltu â grwpiau cymorth lleol i helpu unrhyw un y nodwyd eu bod yn agored i niwed.
Dywedodd Prif Uwch-arolygydd Tom Harding:
"Mae'r ymgyrch hon yn anfon neges glir i unrhyw un ym Mhilgwenlli neu sy’n ymweld, bod yma agwedd dim goddefgarwch tuag at gam-fanteisio rhywiol ledled Gwent. Rwyf eisiau tawelu meddyliau cymunedau lleol; bydd y gwaith hwn yn parhau i dargedu'r rhai sy'n cam-fanteisio ar y rhai mwyaf agored i niwed."
Darllenwch fwy am Ymgyrch Wyvern yma.
Mae ein Swyddogion Cymorth Cymunedol ym Mhilgwenlli yn treulio llawer o'u hamser yn siarad â'r gymuned i ddeall eu pryderon, yn patrolio ardaloedd penodol, ac yn gweithio i nodi’r rhai y mae angen cymorth arnynt.
Dywedodd Swyddog Cymorth Cymunedol Matt Baker:
"O ymddygiad ymosodol, swnllyd neu sarhaus i aflonyddwch yn y gymdogaeth sy'n ymwneud â chyffuriau neu anifeiliaid, mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymddangos ar sawl ffurf, rydym ni yn ymrwymo i fynd i'r afael â phob math o ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mhilgwenlli."
Ein partneriaid a'n cymuned ym Mhilgwenlli
Nid ydym ni’n gweithio ar ein pen ein hunain yn ein hymrwymiad i wneud Pilgwenlli yn lle mwy diogel i bawb. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i gefnogi'r nod hwn, gan gynnwys Safonau Masnach, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Casnewydd, POBL a Gwasanaeth Arbenigol Camddefnyddio Sylweddau Gwent.
'Arwr' cymunedol lleol y mis ar gyfer Pilgwenlli yw ‘Barnabas Arts House’.
Oriel gelf wedi'i lleoli ar New Ruperra Street yw Barnabas Arts House, lleoliad ar gyfer digwyddiadau a chanolfan ar gyfer creadigrwydd yng Nghasnewydd. Mae'r perchennog, Janet Martin, wedi bod yn arwain y mudiad celfyddydol ers dros ddeng mlynedd ar hugain.
Mae'r oriel yn cynnal llawer o ddigwyddiadau cymunedol fel clwb ffilm, clwb llyfrau, dosbarthiadau ysgrifennu creadigol a dosbarthiadau celf. Mae yno gaffi ac mae'n sefydliad gwych yn y gymuned leol.
Yn olaf, hoffai ein tîm plismona yn y gymdogaeth ddiolch i'r gymuned am bopeth y maent yn ei wneud i helpu i wneud Pilgwenlli yn lle mwy diogel i bawb. Drwy godi eich pryderon a rhoi gwybod i ni am unrhyw weithgareddau troseddol neu ymddygiad amheus, rydych yn ein galluogi i flaenoriaethu’r meysydd sy'n peri pryder i chi a sefydlu gweithrediadau amlasiantaethol i fynd i'r afael â throsedd.