Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae eich diogelwch personol, eich tawelwch meddwl, yn golygu popeth i ni yma yn Heddlu Gwent. A thrwy ein prosiectau Strydoedd Saffach, ac mewn partneriaeth â grwpiau cymuned lleol, rydyn ni'n gwneud eich ardal chi'n lle mwy diogel i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef.
Cronfa grantiau gan y Swyddfa Gartref yw Strydoedd Saffach sy'n cefnogi heddluoedd i atal, lleihau a mynd i'r afael â throseddau yn y gymdogaeth, ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais yn erbyn menywod a merched - pan mae’n digwydd, ble mae'n digwydd, cyn iddo ddigwydd.
Yn ddiweddar gwnaethom sicrhau £746,702 o gyllid ychwanegol (y swm unigol mwyaf i ni ei dderbyn erioed) ar gyfer Strydoedd Saffach, i helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau yn y gymdogaeth.
“Mae gan bawb hawl i deimlo'n ddiogel yn yr ardaloedd lle maen nhw'n byw, ac rydyn ni wedi ymroi i amddiffyn a thawelu meddwl ein cymunedau.”
Ar hyn o bryd, rydyn ni'n defnyddio'r arian hwn i atal a mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau eraill fel byrgleriaeth, lladrad a dwyn ledled chwe ardal yng Ngwent - Alway yng Nghasnewydd, Coed-duon, Brynmawr, Cil-y-coed, Cwmbrân a Thredegar.
Rydyn ni'n gallu defnyddio'r arian Strydoedd Saffach hwn yn y ffordd rydyn ni a'n partneriaid cymunedol yn credu bydd yn fwyaf effeithiol i'ch cymuned chi. Rydyn ni'n gwneud pethau ymarferol fel gwelliannau diogelwch, CCTV ychwanegol, yn ogystal â defnyddio tactegau cudd i atal troseddau cymdogaeth a chamau dargyfeiriol i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Nid yn unig mae'r arian yn golygu y gallwn gyflwyno mesurau ac ymgyrchoedd newydd i wella diogelwch y cyhoedd a mynd i'r afael â throseddau yn y gymdogaeth, ond - gyda'n partneriaid - gallwn barhau i fuddsoddi mewn gwaith ymgysylltu ac addysgu hollbwysig hefyd.
Rydyn ni'n gweithio i newid agweddau tuag at ymddygiad a gweithrediadau amhriodol. Rydyn ni'n rhoi cefnogaeth ymarferol i bobl sydd mewn perygl o ymddwyn yn wrthgymdeithasol yn y dyfodol. Ac, wrth gwrs, rydyn ni'n dal i ddwyn y rhai sy'n benderfynol o achosi niwed ac anhrefn gerbron y llysoedd.
Yn rhan o'n hymrwymiad i Strydoedd Saffach, rydyn ni'n rhoi man diogel i bobl ifanc fynd, ac mae rhaglenni allgymorth i addysgu pobl ifanc yn cael eu darparu gan weithwyr ieuenctid mewn llochesi a chanolfannau ieuenctid newydd neu rai wedi’u hadnewyddu.
Os hoffech chi rannu eich barn neu awgrymiadau gyda ni, neu os hoffech chi wybod mwy am y gwaith rydyn ni'n ei wneud yn eich ardal chi, e-bostiwch [email protected]
(Mae mwy o wybodaeth am ein prosiectau ac ymgyrchoedd Strydoedd Saffach presennol a rhai'r gorffennol ar y dudalen 'Ein gwaith hyd yn hyn')