Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cawsom ein galw i gyfeiriad yn Perth Court, Coed-duon, tua 1.15am ddydd Mawrth 11 Chwefror yn dilyn adroddiadau am helynt.
Aeth swyddogion i’r cyfeiriad, ynghyd â pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, a daethant o hyd i ddyn 54 oed a oedd yn ddiymateb.
Cadarnhaodd parafeddygon yn ddiweddarach bod y dyn wedi marw yn y fan a’r lle; mae ei deulu agosaf yn gwybod ac maen nhw’n derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Meddai Ditectif Uwch-arolygydd Michelle Chaplin:
“Mae ein hymchwiliad i amgylchiadau marwolaeth y dyn yn parhau ac ar hyn o bryd rydyn ni’n trin y farwolaeth fel un heb esboniad.
“Arestiwyd dyn 39 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ddechrau ein hymholiadau; fodd bynnag, cafodd ei ryddhau o’r ddalfa ac ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd yn ei erbyn.
“Bydd yr heddlu yn yr ardal o hyd wrth i ni barhau i geisio darganfod beth sydd wedi digwydd, ond byddem yn ddiolchgar iawn i gael unrhyw fanylion gan y cyhoedd a allai gynorthwyo ein hymholiadau.”
Os oes gennych chi fanylion a allai helpu, gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 101, gan grybwyll rhif cofnod 2500044872.
Gallwch anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu X neu gallwch riportio ar ein gwefan. Gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw hefyd ar 0800 555 111.