Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Cawsom adroddiad am ymosodiad ger Maesglas Crescent, Casnewydd, tua 10pm ddydd Mercher 27 Mai.
Aeth swyddogion yno, ynghyd â pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, a chafodd dyn 32 oed ei gludo i'r ysbyty am driniaeth i anafiadau i'w fraich a'i goes.
Cafodd dyn 31 oed o ardal Cwmcarn ei arestio ar amheuaeth o ymosodiad adran 18 ac mae'n parhau yn y ddalfa wrth i'r ymholiadau barhau.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd John Davies:
“Bydd ein swyddogion yn cynnal ymholiadau yn yr ardal yn dilyn yr adroddiad o'r ymosodiad hwn felly mae'n bosibl y byddwch yn gweld presenoldeb ychwanegol yr heddlu yn y rhan hon o Gasnewydd.
“Er mai digwyddiad ynysig yw hwn ac nad oes unrhyw fygythiad pellach i'r cyhoedd, rydym yn deall y gallai'r mater hwn achosi pryder ymhlith aelodau o'n cymunedau.
“Felly byddem yn gofyn i unrhyw un sydd â phryderon, neu'n bwysicach, gwybodaeth am yr ymosodiad, ddod i siarad â'n swyddogion neu gallwch hefyd gysylltu â ni yn y ffordd arferol."
Cynorthwywyd swyddogion hefyd gan gydweithwyr o Wasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu.
Mae ymholiadau'n parhau, a gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101, mynd i'n gwefan neu anfon neges uniongyrchol atom ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddyfynnu cyfeirnod log 2600165969.
Gallwch hefyd gysylltu â Crimestoppers yn ddienw gyda manylion.