Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Efallai eich bod wedi buddsoddi llawer iawn o amser, egni ac arian yn eiddo eich busnes, ond mae byrgleriaid am dorri mewn iddo. Dilynwch ein cyngor isod i wneud yr eiddo’n fwy diogel, gan eu hatal rhag ei dargedu.
1. Bydd ardaloedd allanol sydd wedi’u cynnal a’u cadw’n dda, heb graffiti na sbwriel yn lleihau’r siawns i’ch eiddo gael ei dargedu gan droseddwyr. Felly ceisiwch gael gwared ar graffiti. Os bydd peth yn ymddangos ar wal neu adeilad cyfagos, ffoniwch y cyngor lleol a fydd yn anfon eu tîm arbenigol.
2. Nodwch ardaloedd y gallai rhywun orfodi eu ffordd i mewn drwyddynt a gwnewch hwy’n fwy diogel.
3. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw ddrysau gwasanaeth yn cael eu cloi pan na fyddant yn cael eu defnyddio.
4. Gwnewch yn siŵr bod gennych larwm wedi’i monitro a’i bod y gweithio’n iawn. I gael cyngor a gwybodaeth am gyflenwyr teledu cylch cyfyng cymeradwyedig ewch i Arolygiaeth Diogelwch Cenedlaethol a’r Bwrdd Archwilio Systemau Diogelwch a Larymau.
5. Gwnewch yn siŵr bod eich teledu cylch cyfyng yn gweithio, ei fod yn gallu adnabod wynebau a hefyd yn rhoi lluniau o ansawdd da a’i fod yn gallu gweld unrhyw ardal a allai fod yn agored i ladrad. Argymhellir yn gryf hefyd gael teledu cylch cyfyng digidol 24 awr. Fe gewch gyngor defnyddiol ar brynu offer gwyliadwriaeth, gan y Comisiynydd Camera Gwyliadwriaeth yma.
6. Gwnewch yn siŵr bod biniau ar olwynion yn cael eu cadw’n ddiogel gan y gall lladron ddringo ar y rhain er mwyn mynd i mewn i’r adeilad, yn arbennig ar y llawr gwaelod.
7. Gwnewch yn siŵr bod digon o olau o amgylch yr eiddo, yn arbennig ardaloedd llwytho.
8. Ystyriwch symud nwyddau gwerthfawr oddi wrth y ffenestri arddangos dros nos.
9. Tociwch unrhyw dyfiant sydd wedi gordyfu neu goed cyfagos, gan y gallant roi cysgod i unrhyw un sy’n ceisio cuddio rhag cael ei weld.
10. Mae drysau a ffenestri yn arbennig o fregus – defnyddiwch gynhyrchion sydd â graddiad diogelwch fel eu bod yn gwrthsefyll lladron yn well. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Secure by Design.
11. Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio i osod cloriau dros ffenestri a drysau allanol, ond maent yn effeithiol. Defnyddiwch wydr wedi’i lamineiddio sy’n gwrthsefyll ymosodiad mewn fframiau cadarn os yw hynny’n bosibl. Neu, gellir gosod ffilm ar wydr i’w wneud yn fwy cydnerth.
12. Gellir defnyddio bolardiau gwrth hyrddio wedi’u gosod tu allan i ddiogelu blaen adeiladau ond efallai y byddant angen caniatâd cynllunio.
13. Ceisiwch beidio â chadw arian parod yn yr adeilad a defnyddiwch sêff wedi'i bolltio i lawr bob amser gyda chlo amser a synwyryddion gwrth-ymyrryd sy'n sbarduno larwm.
14. Gwnewch yn siŵr fod ystafelloedd stoc wedi'u cloi a, lle bo hynny'n bosibl, cadwch stoc o'r golwg.
15. Mae dyfeisiau cynhyrchu mwg sy'n actifadu wrth fynediad heb awdurdod yn creu sgrin fwg a byrgleriaeth ffoil. Fe'u dyluniwyd i beidio â difrodi stoc.
16. Gwnewch yn siŵr nad yw'ch allweddi yn cael eu gadael yn yr adeilad ac mai dim ond staff dynodedig sydd â mynediad. Mewn argyfwng, gwnewch yn siŵr bod rhestr o ddeiliaid allweddi y gellir cysylltu â nhw.
Gallai eich busnes gael ei dargedu gan ladron os ydych yn defnyddio olew coginio. Gellir gwerthu'r olew ymlaen i wneud biodanwydd i'w ddefnyddio mewn cerbydau diesel, neu i'w ddefnyddio yn lle olew gwresogi. Darganfyddwch sut i ddiogelu eich busnes a chael gwared ar olew yn gywir er mwyn helpu i atal y drosedd hon.
Mae eich asedau digidol mewn cymaint o berygl â’ch rhai ffisegol. Dyna pam fod angen i chi eu diogelu, yn arbennig os ydych yn fusnes bach gyda phopeth ar liniadur. I gael rhagor o gyngor ar sut i gadw copïau wrth gefn o’ch data electronig a chadw’n ddiogel rhag twyll ar-lein, ewch i’n tudalen ar dwyll e-fasnach, ar-lein a dros y ffôn.