Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Deddf Diogelu Data 2018 yn rhoi hawl i chi ganfod pa wybodaeth a ddelir amdanoch. Gelwir hyn yn Fynediad Gwrthrych at Wybodaeth.
Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r rheini sy’n cofnodi ac yn defnyddio data personol i gadw at egwyddorion y Ddeddf ac i fod yn agored ynglŷn â sut maent yn ei ddefnyddio. Mae’r rhan olaf hon yn berthnasol i Heddlu Gwent, y mae’r Ddeddf yn ei alw’n 'Rheolwr Data'.
Diffinnir data personol fel unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson byw y gellir ei adnabod naill ai o’r wybodaeth ei hun neu’n anuniongyrchol drwy gyfuno’r wybodaeth gyda data arall sydd ar gael i’r rheolwr. Mae data personol yn cynnwys unrhyw safbwyntiau ac arwyddion o fwriadau y mae rhywun wedi’u mynegi am y person.
O dan Ddeddf Diogelu Data 2018 mae gennych hawl statudol i gael mynediad at ddata personol yr ydym yn ei ddal amdanoch ar gyfrifiadur neu mewn ffeil bapur.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y Ddeddf Diogelu Data ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.
Mae disgrifiad o’r holl gategorïau data personol neu ddata personol sensitif yr ydym yn ei brosesu, a’n rhesymau dros wneud hynny, ar gael ar ein tudalen Hysbysiad Preifatrwydd. Ewch i’n tudalen Gwneud cais am wybodaeth amdanom ni a defnyddiwch ein hoffer chwilio i ddod o hyd i’r disgrifiad.
Mewn rhai amgylchiadau, efallai bydd rhai eithriadau sy’n ein rhwystro rhag datgelu gwybodaeth amdanoch. Enghreifftiau o hyn yw pe bai’r wybodaeth yn llesteirio atal a datgelu trosedd neu ddal ac erlyn troseddwyr. Ni fyddem chwaith yn datgelu peth gwybodaeth benodol oherwydd diogelwch gwladol.
Yn yr un modd, os ydych chi’n teimlo bod cais yr ydych wedi’i wneud am ddata personol heb gael ei drin yn gywir, ysgrifennwch at:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF