Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych wedi cael cysylltiad â’r heddlu, mae’n bosibl ein bod yn dal rhyw wybodaeth bersonol amdanoch ar ein cofnodion. Mae gennych hawl i ofyn am y wybodaeth hon, boed hynny ar gyfer proses fetio cyflogaeth, cais am fisa, achos mewn llys teulu neu er mwyn gwirio ei chywirdeb.
Isod fe welwch y gwahanol amgylchiadau pan all yr heddlu ddatgelu gwybodaeth amdanoch
Mae Deddf Diogelu Data 2018 yn rhoi’r hawl i chi ofyn a yw’r heddlu’n dal, neu a yw’n prosesu, unrhyw ddata personol amdanoch chi. Gelwir hyn yn gais gwrthrych am wybodaeth.
I wneud cais gwrthrych am wybodaeth, ewch i’n tudalen Gwneud cais am wybodaeth amdanaf i neu eraill.
Mae’r broses mynediad gwrthrych at wybodaeth yn gyfrinachol rhwng y sawl sy’n gwneud cais a’r heddlu. Ni allwn ddarparu manylion unrhyw berson arall drwy hyn.
Mae’n groes i’r gyfraith i gyflogwr, neu ddarpar gyflogwr, ofyn i chi wneud cais gwrthrych am wybodaeth fel amod o’ch cyflogaeth. Yn hytrach, gall ofyn i chi gynnal gwiriad euogfarn droseddol neu lenwi gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) neu uwch wiriad diogelwch. Mae’r manylion i’w gweld isod.
Dysgwch fwy am ddiogelu data yng nghanllaw Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i’r GDPR.
Os ydych chi’n chwilio am dystysgrif yr heddlu ar gyfer cais am fisa, neu eich hanes llawn o euogfarnau ar gyfer eich cofnodion eich hun, gwnewch gais i Swyddfa Cofnodion Troseddol Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) a adnabyddir hefyd yn ACRO.
Os yw cyflogwr, neu ddarpar gyflogwr, wedi gofyn i chi am y wybodaeth hon dylech wneud cais am wiriad sylfaenol Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Y rheswm dros hyn yw, yn ôl y gyfraith nid oes angen i beth gwybodaeth a fyddai’n cael ei ddatgelu mewn datgeliad ACRO (uchod) gael ei ddatgelu wrth gyflogwr.
Os bydd eich gwaith, naill ai fel cyflogai taledig neu wirfoddolwr, yn dod â chi i gysylltiad â phlant neu oedolion agored i niwed efallai y gofynnir i chi hefyd gwblhau gwiriad Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mewn sefyllfaoedd lle byddwch yn gofalu, hyfforddi neu’n goruchwylio grwpiau agored i niwed, yn cynnwys plant, yn rheolaidd neu os byddwch chi’n unig â gofal dros grwpiau o’r fath, efallai y bydd angen i chi gwblhau gwiriad lefel uwch.
Cynhelir gwiriadau DBS a gwiriadau lefel uwch gan y DBS. Gwneir ceisiadau ar gyfer y ddau drwy eich cyflogwr fel arfer.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth neu i gael diweddariad am wiriad diogelwch sydd wedi cymryd mwy na 60 diwrnod, ewch i’n tudalen Beth yw statws fy nghais DBS?
Os ydych i fod i gymryd rhan mewn achos llys teulu mae’n bosibl rhoi rhybudd rhagblaen i ni ac eraill sy’n gysylltiedig, megis yr adran gofal cymdeithasol plant. Fel hynny gallwn rannu unrhyw wybodaeth sydd ei hangen cyn y dyddiad llys sydd wedi’i drefnu, fel y gall achosion teuluol gael eu hystyried gyda’r holl ffeithiau sydd ar gael.
Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fo diogelwch neu lesiant aelodau teulu yn y fantol.
I ddechrau’r broses hon, ewch i’n tudalen Gwneud cais am wybodaeth amdanaf i neu eraill.