Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi eisiau bod yn berchen ar arf tanio neu ddryll, mae angen ichi wneud cais am dystysgrif.
Bydd angen ichi:
Os oes gennych chi dystysgrif yn barod, ond bod honno wedi dod i ben, rhaid ichi wneud cais am dystysgrif newydd.
Gallwch ddefnyddio'r broses ymgeisio hon hefyd i adnewyddu tystysgrif sy'n bodoli eisoes.
Nodweddion y gwn sy’n diffinio'r dystysgrif, nid ei enw.
Y math o wn | Priodweddau | Tystysgrif arf tanio | Tystysgrif dryll |
Arf tanio | Baril rhigoledig, yn saethu bwledi neu getris |
✓ | |
Dryll neu fysged | Baril llyfn, yn saethu cetris neu getris gwag |
✓ | |
Dryll aml-ergyd | Yn gallu dal mwy na thair cetrisen |
✓ | |
Reiffl aer | Egni cinetig o fwy na 12 troedfedd y pwys |
✓ |
Mae yna amgylchiadau lle cewch saethu heb dystysgrif.
Rhagor o wybodaeth am gyfraith trwyddedu arfau tanio yn y Deyrnas Unedig.
Mae yna gyfyngiadau oedran ar gyfer tystysgrifau arf tanio a thystysgrif dryll. Gwiriwch y rhain cyn dechrau eich cais.
Rydych chi’n cael gneud cais am dystysgrif bum mlynedd ar ôl eich dyddiad rhyddhau:
Chewch chi ddim gwneud cais am dystysgrif:
Cyn ichi ddechrau ar eich cais, mae yna bethau y bydd angen eu paratoi ymlaen llaw:
Bydd angen i chi ddarparu llun pasbort ohonoch chi’ch hun.
Rhaid i’ch ffotograff chi:
Rhaid ichi:
Rhaid defnyddio llun digidol ar gyfer ceisiadau ar-lein.
Rhaid i'ch llun digidol:
Byddwn yn gofyn ichi roi manylion dau ganolwr (neu un os ydych chi’n gwneud cais am dystysgrif dryll).
Bydd angen i chi ddarparu:
Sylwch:mae yna reolau ynghylch pwy gaiff weithredu fel canolwr ichi. Darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd ynghylch gwneud cais.
Eich manylion cysylltu, gan gynnwys:
I gael gwybodaeth am sut rydyn ni’n trin data, darllenwch ein nodiadau cyfarwyddyd ynghylch gwneud cais.
Bydd angen ichi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:
Os ydych chi’n gwneud cais am dystysgrif arf tanio, byddwn yn gofyn i chi roi:
Byddwn yn gofyn i chi roi manylion unrhyw droseddau neu rybuddiadau ysgrifenedig, gan gynnwys y dyddiad (mis a blwyddyn).
Mae troseddau'n cynnwys troseddau goryrru, ond nid troseddau parcio na hysbysiadau cosb benodedig.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd ynghylch gwneud cais.
Byddwn yn gofyn ichi roi manylion unrhyw un a allai fod â mynediad i’r fan lle byddwch chi’n storio'ch arf tanio neu'ch dryll, er enghraifft, ffrindiau neu berthnasau.
Bydd angen ichi ddarparu eu:
Byddwn yn gofyn ichi roi manylion unrhyw dir preifat neu glwb cofrestredig lle byddwch chi’n defnyddio’ch arf tanio.
Tir preifat
Bydd angen i chi ddarparu:
Clwb saethu
Bydd angen ichi ddarparu:
Os ydych chi’n adnewyddu, bydd angen ichi ddarparu copi llawn o'ch tystysgrif(au) presennol, gan gynnwys tabl un a dau.
Defnyddiwch ein gwasanaeth gwneud cais i ddechrau. Bydd yn dweud wrthoch chi sut i wneud cais, faint y bydd angen ichi ei dalu a pha mor hir y bydd yn ei gymryd i gael tystysgrif.
Os ydych chi wedi cyflwyno’ch cais ar-lein, gallwch lawrlwytho copi ar gyfer eich cofnodion eich hun.
Byddwn yn cynnal gwiriadau cefndir. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â chanolwyr ac, os yw'n berthnasol, eich meddyg teulu.
Byddwn ni hefyd yn asesu’ch addasrwydd i gael tystysgrif. Fel rhan o'r asesiad, bydd swyddog ymholiadau arfau tanio (FEO) yn cyfweld â chi yn eich cyfeiriad cartref.
Pan fyddwn ni wedi penderfynu ar eich cais, byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod ichi am y canlyniad.