Amddiffynnwch eich hun rhag twyll drwy dynnu sylw
Rydym yn ymchwilio i ddau hysbysiad am dwyll drwy dynnu sylw (un digwyddiad yn Tesco yn Abertyleri ac un ym Mhontypandy, Caerffili), ar 23 Awst, lle dywedodd unigolion bod eu cardiau wedi cael eu “llyncu” mewn peiriant arian ond wedyn wedi cael eu defnyddio gan rywun arall i geisio tynnu arian neu brynu nwyddau yn dwyllodrus.