Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd y grŵp yn chwarae rhan bwysig yn craffu ar y polisïau a'r prosesau a ddarperir gan Heddlu Gwent
Bydd y grŵp yn cefnogi gwaith y Grŵp Cynghori Annibynnol, a sefydlwyd gan bob llu Heddlu ledled Cymru a Lloegr mewn ymateb i ganfyddiadau Ymholiad Stephen Lawrence a gyhoeddwyd ym 1999.
Mae aelodaeth o'r Grŵp Cydlyniant Cymunedol yn wirfoddol.
Dyma'r rhinweddau a sgiliau personol allweddol sydd eu hangen arnoch i'ch galluogi chi i gyflawni swyddogaethau aelod o'r Grŵp Cydlyniant Cymunedol.
Mae'n bwysig eich bod chi'n gallu:
Byddai'n ddefnyddiol pe bai gennych chi brofiad o'r canlynol hefyd:
Rydym yn chwilio am gynrychiolwyr sy'n adlewyrchu pob cymuned sydd gennym ni yng Ngwent. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn derbyn ceisiadau gan bobl sy'n cynrychioli:
Nid oes angen unrhyw brofiad cyfreithiol na gwybodaeth am arferion plismona arnoch chi, ond mae angen i chi fod yn angerddol dros sicrhau bod llais eich cymuned yn cael ei glywed, ac yn ymroddedig i wneud gwahaniaeth i'r ffordd mae gwasanaethau plismona'n cael eu darparu.
Byddai'n ddefnyddiol pe bai gennych chi gysylltiadau cadarn gyda chymuned benodol yn ardal Gwent hefyd, y byddech yn gallu ymgynghori â hi ar ein rhan a rhoi adborth i ni am unrhyw bryderon sy'n codi.
Bydd hyd at 30 cynrychiolydd yn y Grŵp Cydlyniant Cymunedol a bydd pob cais a dderbynnir yn cael ei adolygu gan yr aelodau presennol, ynghyd â chynrychiolwyr uwch o'r Heddlu.
Anfonwch e-bost at y cyfeiriad isod a gofyn am becyn ymgeisio. Rhowch wybod i ni os oes angen fersiwn print mawr, Braille neu fersiwn Saesneg arnoch chi.
Anfonwch eich ymholiad trwy e-bost at: Gareth Hughes, Pennaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant: [email protected]