Apêl am fanylion ar ôl tân bwriadol yng Nghaerffili
Mae swyddogion eisiau siarad ag unrhyw un â gwybodaeth, gan gynnwys lluniau CCTV neu gamera car, a allai helpu eu hymholiadau ar ôl i gar gael ei roi ar dân ar Mill Road tua 2.15am ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf. Yn ôl pob sôn cafodd y tân ei gynau’n fwriadol.